Myfyrwraig o Gaerdydd yn ennill gwobr addysg genedlaethol

11 Gor 2018

Enillodd myfyrwraig o Goleg Caerdydd a’r Fro wobr addysg genedlaethol anrhydeddus mewn seremoni yn y Neuadd Ganol yn San Steffan, Llundain ddydd Iau, 5ed Gorffennaf 2018.

Enillodd Whitney Phillips Wobr BTEC i Fyfyriwr Gofal Plant a Chymdeithasol y Flwyddyn, i gydnabod ei chyflawniadau yn y pwnc. Cyflwynwyd y wobr gan Jackie Rose, Pennaeth Academi Dinas Leeds.

Yn cynnwys 24 o gategorïau, cyflwynwyd Gwobrau BTEC Pearson, gwobrau blynyddol oedd yn cael eu cynnal am yr wythfed tro eleni, gan y newyddiadurwr ariannol a’r cyflwynydd teledu, Steph McGovern, ac roeddent hefyd yn cynnwys cyfraniadau gwych gan fyfyrwyr a phobl ifanc sy’n astudio am gymwysterau BTEC. Yn bresennol yn y seremoni roedd yr enillwyr, eu teuluoedd a’u hathrawon, yn ogystal â rhanddeiliaid blaenllaw o fyd addysg a busnes.

Bu panel arbenigol o 52 o feirniaid yn ystyried yr holl enwebeion yn ofalus cyn penderfynu ar enillydd.

Mae Pearson wedi bod yng ngofal BTEC am fwy na 30 o flynyddoedd ac yn ystod y cyfnod hwn mae’r cymwysterau wedi hwyluso hyfforddi ymgeiswyr parod am waith gyda’r wybodaeth a’r sgiliau ymarferol mae cyflogwyr eu hangen. Mae’r cymwysterau galwedigaethol ymarferol hyn yn parhau i gael eu parchu fel llwybr gwerthfawr at gyflogaeth ac i mewn i gyflogaeth drwy brifysgol.

Bywgraffiad yr enillydd: Whitney Phillips

Ar ôl gweithio am nifer o flynyddoedd ar ôl gadael yr ysgol, dychwelodd Whitney at fyd addysg i ddilyn cwrs sylfaen i oedolion er mwyn gallu cael mynediad i gwrs lefel 3, ac wedyn cofrestrodd ar gyfer Diploma Estynedig Lefel 3 BTEC mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Yn ystod y cwrs, enillodd Whitney ei chymwysterau mathemateg a Saesneg ar lefel TGAU, gan sicrhau un o’r graddau uchaf yn ei grŵp.

Mae Whitney yn fam i fachgen bach ag anghenion ychwanegol. Mae’n rhoi llawer iawn o’i hamser iddo ef yn ogystal ag astudio, cwblhau ei 100 o oriau o leoliad gwaith a gweithio mewn swydd er mwyn darparu ar gyfer ei mab, a hefyd ymdopi â’i hanghenion hi ei hun. Mae wedi profi’n fodel rôl gwych i’w chyfoedion, oedd yn edmygu ei hagwedd at ei gwaith yn ogystal â’i hamgylchedd cartref ar gyfer ei phlentyn.

Dywedodd Rod Bristow, Llywydd Pearson yn y DU:

“Fe hoffwn i longyfarch Whitney ar ennill y wobr yma. Roedd y beirniaid yn hapus iawn gyda safon yr enwebiadau eleni ac mae hwn yn gyflawniad rhagorol.

“Gwobrau BTEC yw un o fy hoff ddigwyddiadau i yn ystod y flwyddyn. Mae’n ddathliad hyfryd, nid dim ond o’r enillwyr gwych eu hunain, ond o werth cymhwyster BTEC i gyflogwyr a phrifysgolion ym mhob cwr o’r byd.”

Dywedodd Whitney Phillips:

“Mae’r BTEC wedi fy helpu i i wneud pethau nad oeddwn i erioed wedi meddwl y byddwn i’n gallu eu gwneud, gan wella fy mywyd i a bywyd fy mab am byth. ’Fyddai hyn ddim wedi gallu digwydd byth heb gefnogaeth fy nhiwtoriaid i ac fe fydd pwysigrwydd y profiad yma’n aros efo fi am byth, a phopeth rydw i wedi llwyddo i’w wneud. Mae fy mreuddwyd i o weithio ym maes nyrsio iechyd meddwl yn gymaint nes nawr ac rydw i’n edrych ymlaen yn fawr at symud ymlaen i bennod nesaf fy mywyd i.”

Dywedodd Victoria Jenkins o Goleg Caerdydd a’r Fro:

“Mae Whitney yn esiampl berffaith o’r hyn mae’r rhaglen BTEC yn gallu ei wneud i ddysgwr. Mae wedi cyflawni mwy nag yr oedd wedi breuddwydio erioed ac wedi goresgyn amgylchiadau anodd i wireddu ei breuddwyd. Mae wedi profi bod gwaith caled a phenderfyniad yn eich galluogi i gyrraedd eich nod. Wrth iddi symud ymlaen i’w hail flwyddyn mewn addysg uwch, yn astudio Nyrsio Iechyd Meddwl ym Mhrifysgol Caerdydd, does dim posib meddwl am ddysgwr sy’n haeddu’r teitl yma’n fwy na hi.”