Diwrnod graddio interniaid Coleg Caerdydd a’r Fro a Phrifysgol Caerdydd

2 Gor 2018

Dim ond 6.7% o bobl ag anableddau dysgu sydd mewn cyflogaeth. Ond mae cynllun rhyngwladol mawr y mae Coleg Caerdydd a’r Fro a Phrifysgol Caerdydd wedi ymuno ag o’n gwneud byd o wahaniaeth – mae mwy na 60% o’r myfyrwyr sy’n cymryd rhan yn dod o hyd i swyddi ar ôl graddio o’r cynllun.

Yr wythnos ddiwethaf, mae 11 arall o fyfyrwyr Coleg Caerdydd a’r Fro wedi graddio o interniaethau ym Mhrifysgol Caerdydd, gyda disgwyl i o leiaf ddeg ohonynt ddod o hyd i waith o ganlyniad.

Bydd y dathliad yn nodi ail flwyddyn y Prosiect SEARCH cyntaf yng Nghymru. Dyma fenter ryngwladol fawr sy’n darparu cyfleoedd dysgu a gwaith i bobl ifanc sydd ag anghenion dysgu ychwanegol. Cyflwynir Prosiect SEARCH yng Nghaerdydd drwy gyllid gan y prosiect Engage to Change, sy’n cefnogi pobl ifanc ag anableddau dysgu ac awtistiaeth i gael gwaith ledled Cymru. Cyllidir Engage to Change gan y Gronfa Loteri Fawr mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru.

Mae’r cynllun wedi profi’n llwyddiant mawr. O blith y grŵp y llynedd, mae saith wedi cael gwaith mewn swyddi amrywiol ar ôl graddio a phenderfynodd dau ddychwelyd i fyd addysg i ddilyn cyrsiau penodol. Mae’r gweddill yn dal i chwilio am swyddi.

Un o’r graddedigion a gafodd waith yn dilyn ei hinterniaeth gyda Phrosiect SEARCH y llynedd yw Grace Smith. Ar ôl ei hinterniaeth olaf yng Nghanolfan Addysg Feddygol Prifysgol Caerdydd yn Ysbyty Prifysgol Cymru, Parc y Mynydd Bychan, daeth swydd fel cynorthwy-ydd technegol ar gael a gwnaeth Grace gais llwyddiannus amdani.

“Fe wnes i ddysgu sgiliau newydd fel gwneud ffrindiau newydd, cyfathrebu, gwneud cyswllt llygad a dysgu sut i weithio ar fy mhen fy hun,” dywedodd Grace.

“Roeddwn i’n rhan o Brosiect SEARCH y llynedd ac mae wedi fy helpu i i gael y swydd yma. Oni bai ’mod i’n rhan o Brosiect SEARCH, ’fyddwn i ddim ble rydw i nawr.”

Mae’r myfyrwyr yn cwblhau tair interniaeth deg wythnos ar draws Prifysgol Caerdydd a CAVC gyda chefnogaeth staff y Coleg a’r Asiantaeth Cyflogaeth a Gefnogir ELITE.

Drwy gymryd rhan yn y cynllun, mae tri intern wedi cael gwaith eisoes gan wneud defnydd o’r sgiliau a’r profiad gwaith maent wedi’u datblygu. Mae un, George Breeze, wedi cael ei gyflogi fel llysgennad y prosiect Engage to Change gyda phartner yn y Consortiwm, Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan, y llais unedig dros grwpiau hunaneirioli a phobl ag anghenion dysgu ychwanegol. Mae disgwyl i ddeg o’r dysgwyr ddod o hyd i waith ac mae un wedi cael ei gyfeirio at sefydliad arall.

Mae interniaeth Luke Evans gyda Choleg Caerdydd a’r Fro newydd gael ei hymestyn. Mae’n cynorthwyo tîm llogi lleoliadau’r coleg.



“Fe wnes i ddechrau gyda Phrosiect SEARCH fis Medi diwethaf,”
dywedodd Luke. “Mae wedi bod yn ddiddorol iawn ac rydw i wedi dysgu llawer o sgiliau newydd.

“Rydw i wir wedi mwynhau’r profiad ac fe fyddwn i’n hoffi dilyn gyrfa mewn Lletygarwch. Mae Prosiect SEARCH wedi bod o help mawr i mi benderfynu pa yrfa rydw i eisiau – dydw i ddim yn meddwl y byddwn i wedi bod yn siŵr heb y prosiect.

“Rydw i wedi newid ers Prosiect SEARCH. Roeddwn i’n nerfus ar y dechrau ond rydw i wedi tyfu nawr.”

Wrth siarad yn y seremoni, dywedodd Martin Breeze, tad i lysgennad Engage to Change, George Breeze, sydd wedi graddio o’r rhaglen: “Dydw i ddim yn gallu credu beth sydd wedi’i gyflawni mewn cyfnod mor fyr o amser – mae wedi bod yn anhygoel. Roedden ni wastad yn gwybod y gallai e gyflawni popeth roedd e eisiau mewn bywyd a nawr mae George yn gwybod hynny hefyd.”

Siaradodd cyn-intern, Shane Halton, sy’n gweithio i’r Brifysgol, yn y digwyddiad hefyd. Dywedodd: “Drwy Brosiect SEARCH rydw i wedi datblygu fy hyder drwy weithio gyda phobl eraill. Yn ddiweddar rydw i wedi llwyddo yn fy mhrawf gyrru ac wedi prynu car gyda fy nghynilion o’r gwaith.

“Rydw i wedi trefnu gwyliau dramor hefyd. Dydw i heb fod mewn awyren erioed o’r blaen ac rydw i’n edrych ymlaen yn fawr.”

Dywedodd Pennaeth Paratoi am Fywyd a Gwaith ac Ehangu Cyfranogiad Coleg Caerdydd a’r Fro, Wayne Carter: “Mae Prosiect SEARCH wedi bod yn llwyddiant ysgubol o ran darparu cyfleoedd i’n dysgwyr ni, gan ddatblygu cymhelliant, dyhead a sgiliau i lwyddo drwy gyfrwng y model interniaeth a gefnogir. Rydyn ni mor falch bod cymaint o bobl ifanc yn cyflawni eu llawn botensial ac yn graddio gyda chanlyniadau positif.

“Nid dim ond llwyddiant yr unigolion yw effaith y rhaglen, ond y dysgu sy’n cael ei wneud gan yr holl bartneriaid o ran creu gwell canlyniadau i bobl ifanc. Mae’r cydweithredu rhwng partneriaid gyda CCAF, Asiantaeth Cyflogaeth a Gefnogir ELITE a Phrifysgol Caerdydd wedi galluogi’r prosiect i ysgogi amgylchedd gwaith real gyda chefnogaeth arbenigol gan bob partner sydd wir yn trawsnewid bywydau drwy ddatgloi potensial.”

Dywedodd Dirprwy Is Ganghellor Prifysgol Caerdydd, yr Athro Karen Holford: “Mae’n hyfryd cael llongyfarch yr interniaid unwaith eto ar eu gwaith caled a’u cyfraniad at y Brifysgol.

“Roeddwn i mor falch o ddeall bod cymaint o interniaid y llynedd wedi cael gwaith ac rydw i’n siŵr bod y grŵp presennol mewn sefyllfa dda i lwyddo hefyd.

“Rydw i’n mawr obeithio y byddan nhw i gyd yn mynd ymlaen i fwynhau gyrfaoedd llawn boddhad. Da iawn bob un ohonyn nhw.”


Cyllidir cynllun Prosiect SEARCH, a sefydlwyd yng Nghanolfan Feddygol Ysbyty Plant Cincinnati gan y Cyfarwyddwr Erin Riehle, gan brosiect Engage to Change yng Nghymru. Dyma brosiect sy’n gweithio gyda chyflogwyr i helpu pobl ifanc sydd ag anghenion dysgu ychwanegol i ddatblygu sgiliau cyflogaeth drwy leoliadau gwaith a chefnogaeth i gael gwaith cyflogedig.