Mae prentis Gosodiadau Trydan yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro, Tom Lewis, wedi cael ei ddewis ar gyfer Tîm y DU yng nghystadleuaeth EuroSkills 2018 sydd i gael ei chynnal yn Budapest ym mis Medi.
EuroSkills yw’r bencampwriaeth Ewropeaidd ar gyfer pobl ifanc broffesiynol, ac mae’n fersiwn rhanbarthol o gystadleuaeth WorldSkills. Mae pobl ifanc o bob cwr o Ewrop yn cystadlu mewn disgyblaethau amrywiol, o Adeiladu a Thechnegau Adeiladu i’r Celfyddydau Creadigol a Ffasiwn.
“Doeddwn i ddim yn disgwyl cael fy newis ond roeddwn i’n hapus iawn – pan gefais i’r e-bost roeddwn i wrth fy modd,” dywedodd Tom, 21 oed. “Rydw i’n nerfus ond ar yr un pryd yn edrych ymlaen at y profiad, oherwydd fe fydd yn wych i mi.”
Mae Tom, sy’n dod o Faesteg, wedi cael cefnogaeth drwy gydol y broses gan ei gyflogwr, Blues Electrical, a’i Ddarlithydd Gosodiadau Trydan yn CCAF, Geoff Shaw.
“Mae Blues Electrical wedi bod yn gefnogol iawn, gan adael i mi fynd i hyfforddi ar y funud olaf. Maen nhw wedi fy helpu i ar hyd y ffordd,” dywedodd Tom. “Mae Geoff wedi bod yn grêt hefyd, yn rhoi fy enw i yn yr holl gystadlaethau yma ac yn cael popeth roeddwn i ei angen i mi. Fe gafodd liniadur i mi’n ddiweddar – ac mae’n athro gwych.”
Dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr Blues Electrical, David Chandler: “Mae ein rhaglen ni i fuddsoddi mewn prentisiaid wedi talu ar ei chanfed – mae tri o’r chwech yn rownd derfynol y Sioe Sgiliau eleni’n gweithio i Blues Electrical, sy’n ganlyniad da. Mae ein targed o sicrhau bod 10% o’r gweithlu’n brentisiaid wedi arwain at y canlyniad priodol o ran cymryd rhan mewn cystadlaethau a’n busnes ni o ddydd i ddydd.”
Dywedodd Darlithydd Gosodiadau Trydan CCAF, Geoff Shaw: “Mae hwn yn newyddion gwych i Tom, ac yn gyfle arbennig iddo fe. Fe hoffwn i ddiolch i Blues Electrical am eu cefnogaeth ragorol iddo – maen nhw wir yn credu yn eu prentisiaid ac yn eu cefnogi.”
Dywedodd Dr Neil Bentley, Prif Weithredwr WorldSkills UK: “Fe hoffwn i longyfarch Tom. Bydd hwn yn gyfle i wella ei fywyd.
“Ar ôl Brexit, bydd ein llwyddiant economaidd fel gwlad yn dibynnu ar ein gallu i sicrhau cytundebau masnach mawr a denu buddsoddiadau mewnol - a bydd hyn bob amser yn dibynnu ar ddangos bod gennym ni bobl â’r sgiliau addas. Mae Tîm y DU yn dangos nid yn unig y nodweddion a’r rhinweddau rydyn ni eisiau eu gweld mewn gweithlu ifanc, ond hefyd uchelgais Llywodraeth y DU a Phrydain Fyd-eang.
“Dyma arweinwyr eu cenhedlaeth – ac fe fyddan nhw’n ysbrydoli llawer mwy i ddilyn yn ôl eu troed.”
Cyllidir y Rhaglen Prentisiaethau yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru gyda chefnogaeth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.