Myfyrwyr Career Ready yn dathlu graddio yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro

15 Meh 2018

Croesawodd Coleg Caerdydd a’r Fro 25 o fyfyrwyr wrth iddynt ddathlu graddio o raglen Career Ready gyda ffrindiau, rhieni a mentoriaid.

Cynhaliwyd y seremoni raddio yn Y Dosbarth, bwyty Ewropeaidd modern a nodedig y Coleg ar ei Gampws yng Nghanol y Ddinas, gyda golygfeydd ar draws Caerdydd. Cafodd y myfyrwyr dystysgrif am gwblhau’r rhaglen gan y chwaraewr rygbi rhyngwladol gyda Chymru a Dreigiau Casnewydd Gwent, Ashton Hewitt.

Mae’r rhaglen, sy’n cael ei rhedeg yn CCAF gan Reolwr Career Ready, Tracy Bird, yn rhan o elusen ledled y DU sy’n cysylltu cyflogwyr ag ysgolion a cholegau i agor byd gwaith i bobl ifanc 16 i 19 oed. Gall dysgwyr yn CCAF wneud cais i ymuno â’r rhaglen i redeg ochr yn ochr â’u cwrs a chael eu mentora, dosbarthiadau meistr, ymweliadau gweithle ac interniaethau.

Cyflwynwyd gwobrau hefyd. Enillwyd Gwobr Myfyriwr y Flwyddyn Career Ready 2018 gan Dylan Eveleigh am ei greadigrwydd, ei sylw i fanylder, ei frwdfrydedd a’i botensial.

“Roedd yn sypreis mawr ac rydw i’n ddiolchgar iawn i Tracy a phawb yn y tîm am y wobr yma,” dywedodd Dylan, sy’n 17 oed ac yn dod o Bontypridd. “Mae rhaglen Career Ready yn un amhrisiadwy – mae’n unigryw ac yn cynnig profiad arbennig sy’n wahanol i unrhyw beth sy’n cael ei gynnig gan ysgolion a cholegau eraill.”

Mae rhaglen Career Ready CAVC yn ehangu flwyddyn ar ôl blwyddyn i gynnwys mwy o gyrsiau. Eleni roedd y cyrsiau Adeiladu’n rhan o’r rhaglen am y tro cyntaf ac enillwyd Gwobr Myfyriwr Adeiladu y Flwyddyn Think Build gan ddysgwr yn dilyn Diploma Uwch Lefel 3 mewn Adeiladu a’r Amgylchedd Adeiledig, Nia Jones.



“Rydw i’n ddiolchgar iawn am y wobr yma,”
dywedodd Nia, sy’n 17 oed ac yn dod o Ben-y-bont ar Ogwr. “Rydw i wedi cael cyfleoedd gwych ac fe ddylai mwy o bobl gymryd rhan gyda Career Ready i ddysgu sgiliau ar gyfer y byd gwaith. Mae’r diwydiant adeiladu’n tyfu’n enfawr a rhaid i fwy o ferched ymwneud ag adeiladu hefyd.”

Aeth Gwobr Cyflawniad Myfyriwr Career Ready i Callum James, dysgwr TG 19 oed o Gaerdydd, am y ffordd yr aeth ati i herio’i hun yn gyson drwy gydol y flwyddyn ddiwethaf, gan ddatblygu hyder a gallu oedd yn destun rhyfeddod i’w diwtor a’i fentor. Enillwyd Gwobr Myfyriwr y Flwyddyn Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd gan Georgia Newman, 18 oed, hefyd o Gaerdydd.

Dyfarnwyd y Wobr Cyflawniad Eithriadol i Bennaeth Gwybodaeth ac Ymgysylltu â Chydweithwyr Banc Lloyds, Steve Pember, am ei waith ar Fwrdd Cynghori Lleol Career Ready. Wrth gasglu’r wobr ar ran Steve, dywedodd Prif Reolwr Rhanbarthol Career Ready ar gyfer Cymru a’r Gorllewin, Simon Page: “Fe hoffwn i ddiolch i’r Coleg am y berthynas strategol sydd gennym ni gyda’n gilydd. Mae arfer gorau’n digwydd yma – rydyn ni’n gweithio gyda 300 o ysgolion a cholegau ac mae llawer o’r gwaith sy’n dod o Goleg Caerdydd a’r Fro’n anhygoel.”

Dywedodd Rheolwr Career Ready CCAF, Tracy Bird: “Mae’n fraint cael dathlu llwyddiant ein dysgwyr Career Ready ni ac rydw i mor falch. Mae’r dysgwyr yma wedi manteisio ar y cyfle i greu llwybr gyrfaol llwyddiannus.

“Mae pob un wedi cael cefnogaeth drwy ddosbarthiadau meistr gan fentoriaid, ymweliadau gweithle ac interniaethau. Mae gennym ni rôl bwysig iawn i’w chwarae mewn galluogi pobl ifanc i gyflawni eu potensial ac i greu gweithlu medrus.

“Gyda help ein gwirfoddolwyr a’n cefnogwyr, rydyn ni wedi cyflawni hyn, gan nid yn unig gynhyrchu tîm medrus o ddysgwyr Career Ready, ond hefyd rhai llwyddiannus. Myfyrwyr Career Ready heddiw yw ein dyfodol ni.”

Arweiniwyd y seremoni gan Danielle Halford, cyn-fyfyrwraig Career Ready sydd wedi bod yn gweithio yn y Coleg fel prentis Career Ready. Hefyd siaradodd dau o gyn-fyfyrwyr Career Ready, Connor Csaszar a Kathryn Parker, sydd bellach yn rhan o Fwrdd Dwyieithog Myfywyr Career Ready CCAF, am eu profiadau, gyda Camilla Bollington o Forseti Associates a Women in Property yn siarad am rywedd a’r diwydiant adeiladu.