Nid cymaint tynnu llun, ond ychwanegu un wrth i ddwy fyfyrwraig o Goleg Caerdydd a’r Fro sefydlu eu busnes ffotograffiaeth eu hunain yn arbenigo ar ddigwyddiadau a cheffylau.
Cafodd y myfyrwyr yn eu hail flwyddyn sy’n astudio Gradd Sylfaen mewn Ffotograffiaeth, Ellie Thomas a Finty Osborne, fflach o ysbrydoliaeth gan sefydlu Paramount Photographers, sy’n arbenigo ar hyn o bryd ar ffotograffiaeth digwyddiadau a cheffylau. Ond mae eu ffocws ar ehangu.
“Roedden ni’n siarad o hyd am sefydlu busnes fel unigolion ac rydyn ni’n hoffi’r un math a steil o ffotograffiaeth felly roedden ni’n meddwl pam ddim gweithio gyda’n gilydd?” esboniodd Finty, 24 oed, sy’n byw ym Mhontypridd. “Dau feddwl - sy’n gallu cynnig gwahanol syniadau.”
Ychwanegodd Ellie, 23 oed ac o Gaerdydd: “Roedden ni eisiau cynnig gwasanaeth a gan fod dwy ohonon ni fe allwn ni wneud dwywaith y gwaith a bod mewn dau le ar yr un pryd, heb golli dim byd. Roedd yn ymddangos fel syniad da iawn.”
Nid ar chwarae bach y gwnaeth Ellie a Finty y penderfyniad: mae’r ddwy wedi treulio amser yn creu portffolio o waith er mwyn cael sylw ac i’w ddangos i ddarpar gleientiaid, a nawr mae’r busnes yn dechrau datblygu.
“Roedden ni eisiau creu portffolio i ddechrau felly ’wnaethon ni ddim sefydlu’n iawn a dechrau codi ffi ar bobl tan fis Medi – roedden ni eisiau’r portffolio ac felly cyn hynny roedden ni’n cynnig ein gwasanaeth am ddim er mwyn ei greu,” esboniodd Finty. “Mae wedi mynd yn dda iawn – syndod o dda!
“Cysylltiadau a phobl yn siarad gyda’i gilydd sydd wedi gweithio’n dda i ni – ac mae ein tudalen ni ar Facebook wedi bod yn llwyddiant. Rydyn ni wedi bod yn lwcus o’r holl waith rydyn ni wedi’i gael mewn cyfnod byr o amser.”
Mae ffocws Ellie a Finty ar ehangu Paramount Photographers ac maent yn ystyried gwneud cais am arian i’w fuddsoddi yn eu busnes.
“Rydyn ni’n noddi rhywun ac mae hynny wedi helpu ond mae gennym ni ddiddordeb mewn cyllid ychwanegol – mae’r offer mor ddrud,” dywedodd Ellie. “Ein nod ni ers y dechrau yw tyfu’n fwy a chael tîm mwy er mwyn gallu anfon mwy o bobl allan – fe fyddwn i’n hoffi gallu gweithio ledled y DU i gyd yn y diwedd.”
Ychwanegodd Finty: “Rydyn ni’n cael negeseuon gan bobl o bell iawn ac ar hyn o bryd dydyn ni ddim yn gallu cyrraedd atyn nhw. Fe fydden ni’n hoffi gwneud gwahanol fath o waith mewn gwahanol steiliau, a chael ein stiwdio ein hunain.”
Mae’r ddwy’n credu bod eu Gradd Sylfaen mewn Ffotograffiaeth, y mae CAVC yn ei chynnig mewn partneriaeth â Phrifysgol De Cymru, a’r gefnogaeth maent wedi’i chael gan y Coleg wedi bod yn allweddol i’w penderfyniad i sefydlu busnes.
“Yn ein blwyddyn gyntaf, doedden ni ddim yn defnyddio llawer ar yr adnoddau sydd ar gael yn y Coleg ond nawr yn ein hail flwyddyn rydyn ni’n gwneud hynny ac mae’n dda iawn,” dywedodd Ellie. “Mae dwy ohonon ni, sy’n helpu, ac mae ein tiwtor ni, Paul Woffenden, wedi bod yn wych hefyd.”
Ychwanegodd Finty: “Mae’r Coleg wedi bod yn gymaint o help – mae’r Swyddog Menter Danielle Hewitt wedi bod yn help mawr gyda chynllunio’r busnes, yswiriant a phethau felly. Mae’r cwrs wedi ein helpu ni hefyd yn sicr – hebddo ’fyddwn i ddim wedi bod mor hyderus.”
Am fwy o wybodaeth am Paramount Photographers ewch i:
Facebook https://www.facebook.com/paramountpics/
Instagram https://www.instagram.com/paramount.photographers/?hl=en
E-bost photographersparamount@gmail.com