Cyn-fyfyriwr yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro, Paul Hayley, yn dychwelyd i siarad busnes

21 Mai 2018

Mae cyn-fyfyriwr yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro, Paul Hayley, wedi dod yn ôl i’w hen goleg i siarad gyda’r myfyrwyr Busnes am ei fywyd a’i brofiadau fel Rheolwr Archwilio Mewnol y DU gyda Dur Tata.

Mae Paul, a gwblhaodd BEC OND mewn Astudiaethau Busnes yng Ngholeg y Barri gynt yn y 1980au, wedi cael gyrfa faith ac amrywiol. Ymhlith ei swyddi blaenorol mae Cyfarwyddwr Rheoli Busnes Hamdden a Thwristiaeth gydag ECGD, Pennaeth Archwilio Mewnol yn Asiantaeth Atgyweirio Awyrennau Amddiffyn y Weinyddiaeth Amddiffyn a Chyfarwyddwr arferion archwilio mewnol arbenigol BHBi, yn ogystal â chyflawni sawl rôl wirfoddol amrywiol.

Daeth i roi cyflwyniad i ddysgwyr Blwyddyn 2 ar gwrs Busnes Lefel 3 y Coleg. Dewisodd Paul wneud hynny ym mis Mai gan ei fod yn Fis Archwilio Mewnol Rhyngwladol ac roedd eisiau tynnu sylw at yr amrywiaeth eang o yrfaoedd sydd ar gael ym maes archwilio – o dreftadaeth ac adloniant i amddiffyn cenedlaethol.

“Pan es i i’r Coleg ddiwedd y ‘70au a dechrau’r ‘80au, Coleg y Barri oedd y coleg o hyd, felly mae dod yn ôl yn teimlo fel cwblhau cylch llawn bron,”
dywedodd Paul. “Mae’n braf cael dod yn ôl a siarad gyda’r myfyrwyr am fy siwrnai i a’r gwersi bywyd rydw i wedi’u dysgu – gobeithio eu bod nhw wedi gallu uniaethu ag ambell beth!

“Mae’r byd heddiw’n gwbl wahanol i’r un pan wnes i adael y coleg. Mae pŵer rhwydweithio, yn gysylltiedig â safleoedd fel LinkedIn a Facebook, yn eich ailgysylltu chi â’r bobl oedd yn y coleg gyda chi ac mae hynny’n grêt. Mae’r cysylltiadau hynny, y rhwydweithiau, yn creu cyfleoedd ac rydw i wedi dod yn ôl i fy ngholeg i awgrymu bod y cyfleoedd yma’n bodoli i fyfyrwyr heddiw.

“Does dim rhaid i chi wybod yn y cam yma yn eich datblygiad ble rydych chi eisiau mynd. Rydw i’n meddwl y bydd hynny o help mewn gyrfa yn yr oes fodern – cael portffolio o yrfaoedd sy’n bwysig oherwydd efallai y bydd gan bobl swydd ymhen 20 mlynedd sydd ddim yn bodoli ar hyn o bryd.”

Dywedodd Dirprwy Bennaeth Busnes, TG ac Astudiaethau Proffesiynol CAVC, Fiona Tierney: “Roedd yn grêt cael croesawu Paul Hayley yn ôl i’r Coleg a roddodd gychwyn i’w lwybr gyrfaol llwyddiannus. Mae cael cyn-fyfyrwyr sydd ag amrywiaeth o brofiadau fel Paul yn dod yn ôl i ysbrydoli ein dysgwyr presennol ni’n un o wir fanteision bod y coleg cyntaf yng Nghymru i sefydlu Rhwydwaith o Gyn-fyfyrwyr.”