Cyflwyno gwobr ledled y DU i Goleg Caerdydd a’r Fro am ei raglen Prentisiaethau Iau mewn digwyddiad arbennig yn y Senedd

11 Mai 2018

Mae Coleg Caerdydd a’r Fro wedi ennill gwobr genedlaethol am ei raglen arloesol i gynnig mwy o lwybrau gyrfaol galwedigaethol i ieuenctid 14 i 16 oed mewn digwyddiad arbennig yn y Senedd.

Trechodd y Coleg ddarparwyr Addysg Bellach (AB) eraill y DU i ennill Gwobr Beacon Cymdeithas y Colegau (AoC) ar gyfer Pontio i Addysg a Hyfforddiant Ôl-16, a noddir gan y Grŵp Sgiliau ac Addysg.

Mae Gwobrau Beacon yn dathlu’r arferion gorau a mwyaf arloesol ymhlith sefydliadau AB y DU, gan wobrwyo colegau sy’n mynd yr ail filltir i ddarparu addysg dechnegol a phroffesiynol. Rhaid i enillwyr y gwobrau gynnig rhywbeth eithriadol i fyfyrwyr a’r gymuned ehangach hefyd.

Ymunwyd â Gweinidog yr Iaith Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, Eluned Morgan, gan Gyfarwyddwr Rhanbarthol AoC ar gyfer y De Orllewin, Ian Munro, a Phrif Weithredwr y Grŵp Sgiliau ac Addysg, Paul Eeles, i gyflwyno’r wobr i Bennaeth CCAF, Kay Martin.

Yn cael ei chyllido ar y cyd gan Ddatrysiadau Creadigol Llywodraeth Cymru, CCAF, Cyngor Caerdydd ac ysgolion Caerdydd, lansiwyd y rhaglen Prentisiaethau Iau yn 2016 er mwyn cynyddu nifer y bobl ifanc mewn addysg, cyflogaeth a hyfforddiant.

Gan gynnig cyfle i ddisgyblion Blwyddyn 10 ac 11 astudio’n llawn amser ar gyfer gyrfa yn y dyfodol mewn coleg o 14 oed ymlaen, roedd rhaglen y Prentisiaethau Iau y cyntaf o’i bath yng Nghymru. Mae’r rhaglen dwy flynedd ar gyfer disgyblion Blwyddyn 10 ac mae’n cynnwys addysg sy’n gysylltiedig â gwaith gyda phrofiad gwaith a chyfle i greu CV ochr yn ochr â chwrs Lefel 2 sy’n cyfateb i bedwar neu bump TGAU mewn chwe llwybr galwedigaethol gwahanol. Mae’r llwybrau hyn yn cynnwys meysydd blaenoriaeth Llywodraeth Cymru: moduro, adeiladu, lletygarwch ac arlwyo, creadigol, gwallt a harddwch, a gwasanaethau cyhoeddus.

Hefyd mae pob prentis yn astudio TGAU mewn Saesneg a Mathemateg ochr yn ochr â’r maes o’u dewis.
Rhoddir pwyslais penodol ar ofynion pob prentis gyda Hyfforddwr Dysgu penodol i gefnogi’r addysgu a’r dysgu a helpu gyda rheoli ymddygiad. Mae Swyddogion Lles yn cefnogi materion o ddydd i ddydd ac yn darparu gofal bugeiliol a hefyd cynhelir sesiynau cefnogi ychwanegol mewn Saesneg, Mathemateg a Chymraeg yn wythnosol.

Graddiodd y grŵp cyntaf o ddysgwyr Blwyddyn 11 yn llwyddiannus a sicrhau llefydd ar gyrsiau lefel uwch neu brentisiaethau yn CCAF. Ers hynny mae Llywodraeth Cymru wedi annog colegau eraill yng Nghymru i fabwysiadu mentrau tebyg.

Dywedodd Pennaeth CCAF, Kay Martin: “Mae’n anrhydedd cael Gwobr Beacon am Bontio i Addysg Ôl-16 yn y Senedd. Mae’n dyst i waith caled a phenderfyniad y Coleg, Cyngor Caerdydd ac ysgolion lleol ac rydw i’n eithriadol falch o’u cyflawniadau nhw.

“Mae darpariaeth llwybr dysgu 14 i 16 hanner amser neu ran amser gynhwysfawr wedi bod yn weithredol mewn colegau ledled y DU ers dros 20 mlynedd, ond mae rhaglen y Prentisiaethau Iau yn mynd â’r model hwnnw ymhellach o lawer. Mae’n helpu pobl sydd wedi meddwl nad oedd yr ysgol ar eu cyfer hwy efallai, drwy gynnig llwybrau gyrfaol mewn amgylchedd newydd iddyn nhw.

“Mae straeon llwyddiant y grŵp cyntaf yn siarad drostyn nhw eu hunain. Mae gennym ni ddysgwyr oedd heb fynychu’r ysgol am flynyddoedd llawn yn flaenorol ond sydd nawr yn dangos presenoldeb o 90%; o blith dysgwyr Caerdydd oedd wedi’u datgan fel y rhai mwyaf agored i niwed, nid yw 75% yn y categori hwnnw erbyn hyn a llwyddodd pob un o’r 19 o raddedigion Blwyddyn 11 yn 2017 i gwblhau eu rhaglen gyda dau’n llwyddo i’w chwblhau mewn dim ond blwyddyn. Bydd yr ail grŵp yn graddio yn yr haf ac rydyn ni’n edrych ymlaen at glywed am fwy o straeon llwyddiannus.”

Dywedodd Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, Eluned Morgan: “Fe hoffwn i longyfarch Coleg Caerdydd a’r Fro ar ei wobr. Mae’n gwbl haeddiannol am y gwaith rahgorol maen nhw’n ei wneud gyd’r rhaglen Prentisiaethau Iau.

“Dydi addysg draddodiadol ddim yn iawn i bawb ac mae’r cynllun yma’n cynnig dewis arall yn lle ysgol i ieuenctid 14 i 16 oed ac yn sicrhau eu bod yn aros mewn addysg lawn amser.”