Sam Warburton yn ymuno ag Academi Rygbi Coleg Caerdydd a’r Fro i hyfforddi chwaraewyr ifanc addawol

10 Mai 2018

Mae chwaraewyr Academi Rygbi Coleg Caerdydd a’r Fro wedi cael cymorth gan un o gewri Gleision Caerdydd, Sam Warburton, i roi cyfle oes i’r chwaraewyr rygbi ifanc addawol.

Teithiodd criw o 22 o ddisgyblion Blwyddyn 8 o Ysgol Gyfun Maesteg i Barc yr Arfau Caerdydd BT Sport i gael eu hyfforddi mewn sesiwn unigryw dan arweiniad Warburton ar ôl ennill cystadleuaeth.

Gyda chefnogaeth chwaraewyr o Academi Rygbi Coleg Caerdydd a’r Fro, rhannodd Warburton rywfaint o’i wybodaeth ac arweiniodd y cefnogwyr rygbi ifanc drwy gyfres o ymarferion a thechnegau fel rhan o’r sesiwn awr. Gan weithio mewn partneriaeth â Gleision Caerdydd, mae Academi Rygbi CAVC yn gyfle i bobl ifanc sicrhau cydbwysedd rhwng gyrfa rygbi a’u haddysg, gan ennill llwyddiant ar ac oddi ar y cae.

Dywedodd athro yn Ysgol Gyfun Maesteg, Tom Davies: “Mae’r bechgyn wedi bod ar ben eu digon am wythnos neu ddwy nawr, maen nhw wir wrth eu bodd. Mae cael Sam yma wedi bod yn anhygoel iddyn nhw i gyd – mae diwylliant rygbi cryf iawn yn yr ysgol felly mae hwn yn rhywbeth iddyn nhw fynd yn ôl gyda nhw a dweud wrth eu ffrindiau amdano.”

Yn cynorthwyo Warburton roedd chwaraewyr yn Academi Rygbi CAVC, Odin Pronk ac Aaron Churchill. Dywedodd Odin: “Mae wedi bod yn dda – gyda Sam nid yn unig yn addysgu’r bois ifanc ond yn ein dysgu ni hefyd am sut i hyfforddi’n well ac mae wedi bod yn bleser gweithio ochr yn ochr ag e.”

Ychwanegodd Aaron: “Mae’n beth mawr ac mae wedi bod yn gyfle gwych i’r bechgyn gyda Sam yma a chael gwybodaeth gan chwaraewr proffesiynol.”

Dywedodd Sam Warburton: “Mae Ysgol Gyfun Maesteg wedi ennill cyfle i ddod i lawr i Barc yr Arfau i gael sesiwn hyfforddi gyda mi a rhai o swyddogion hyfforddi’r Gleision. Roedd yn gyfle oedd yn cael ei gynnig gan Goleg Caerdydd a’r Fro ac mae’n braf bod CAVC wedi rhoi’r cyfle yma iddyn nhw.

“Mae rhai o’r bois o Academi Rygbi Coleg Caerdydd a’r Fro wedi dod lawr i helpu hefyd. Roedd yn grêt i’r bois ddod lawr a hyfforddi ar gae hanesyddol a chael cyngor da gan chwaraewyr a chwaraewyr academi o’r coleg lleol – mae’n gyfle gwych.”

Dywedodd Cyfarwyddwr Rygbi CAVC, Martin Fowler: “Mae bechgyn yr Academi gymerodd ran yn y sesiwn yn rhan o’n rhaglen ni sy’n edrych yn ehangach ar eu datblygiad ac maen nhw i gyd wedi gwneud dau gwrs hyfforddi gydag URC. Maen nhw wedi cael cyfle i chwarae’r gêm a dysgu sgiliau bywyd a gwneud hynny mewn cwmni mor arbennig mewn lleoliad rhagorol – mae’n amhrisiadwy i’w datblygiad nhw.

“Yn CAVC nid dim ond chwaraewr rygbi ydyn ni’n ceisio ei ddatblygu; rydyn ni’n ceisio datblygu person cyflawn mewn llawer o ffyrdd, fel hyfforddiant rygbi, modelau mentora, unrhyw beth sy’n gallu eu datblygu nhw y tu allan i’r swigen rygbi.”



Wrth siarad am Academi Rygbi CAVC, dywedodd Warburton: “Mae’n unigryw pan rydych chi’n gweld plentyn sydd wedi dod drwy academi, er enghraifft, yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro. Fe ddois i drwy Academi Gleision Caerdydd ac mae ganddyn nhw ethos proffesiynol – nid dim ond chwarae, ond creu arferion da oddi ar y cae hefyd.”

Meddai Warburton wedyn: “Rydw i wedi bod yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro a gweld cyfleusterau’r gampfa, sydd cystal â’r hyn sydd gan y rhan fwyaf o’r rhanbarthau ac yn well o bosib na rhai clybiau proffesiynol. Mae’r ffaith bod y bechgyn yn yr Academi Rygbi’n cael defnyddio’r cyfleusterau yma yn eu hoedran hwy’n golygu eu bod nhw, wrth gyrraedd lefel broffesiynol, yn cynefino’n rhwydd, sy’n grêt iddyn nhw.”

Dywedodd Pennaeth CAVC, Kay Martin: “Yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro, rydyn ni’n gefnogwyr rygbi brwd felly rydyn ni’n hynod falch o allu cynnig y cyfle anhygoel yma i’r genhedlaeth nesaf o chwaraewyr. Mae cael sesiwn hyfforddi personol gyda chwaraewr mor enwog â Sam Warburton yn brofiad gwych a bydd chwaraewyr ein Hacademi Rygbi’n elwa hefyd o gyngor gan rywun ar lefel uchaf y gêm.”