Enwi darlithydd coleg ysbrydoledig yn Hyfforddwr VQ y Flwyddyn

9 Mai 2018

Mae darlithydd ysbrydoledig o Goleg Caerdydd a’r Fro, sydd wedi gwella o anaf i’w gefn i ddatblygu gyrfa addysgu lwyddiannus, wedi’i enwi yn Hyfforddwr y Flwyddyn yng Ngwobrau Cymwysterau Galwedigaethol (VQ) Cymru eleni.

Mae Tom Jones yn frwd dros ddysgu arbrofol, ac yn aml yn defnyddio arfwisgoedd, gwisgoedd amddiffynnol a gwisgoedd milwrol i gyfleu neges. Efallai na fydd nifer o’i fyfyrwyr rhwng 14 ac 16 oed wedi bod mewn ystafell ddosbarth yn yr ysgol ers misoedd, felly mae ennyn eu diddordeb mewn dysgu yn aml yn gofyn am ddull gwahanol o weithio.

Mae'r wobr i Hyfforddwr VQ y Flwyddyn yn cydnabod hyfforddwyr unigol sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig wrth helpu dysgwyr yn y gweithle i ragori, a hynny gan wella eu sgiliau a'u gwybodaeth eu hunain yn gyson ar yr un pryd.

Cafodd ei wobr mewn seremoni a gynhaliwyd yng Ngwesty’r Exchange, Caerdydd, ar Fai 3, i gyd-fynd â Diwrnod VQ. Llywodraeth Cymru mewn partneriaeth â Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru, ColegauCymru a Cymwysterau Cymru sy'n trefnu Gwobrau VQ.

Nod y gwobrau yw cydnabod unigolion a sefydliadau a'u gwobrwyo am eu hymroddiad, eu gwaith caled a'r hyn y maent wedi'i gyflawni.

“Nid oeddwn yn disgwyl ennill y wobr gan fod y gystadleuaeth mor gryf,” meddai Tom. “Mae’r wobr hon yn dangos, hyd yn oed os nad yw’ch bywyd wedi bod yn rhwydd, nad oes dim yn eich rhwystro rhag newid cyfeiriad, ac mae cymwysterau galwedigaethol yn ffordd o wneud hynny. Maen nhw’n eich galluogi i agor eich meddwl mewn ffordd wahanol ac i wthio’ch hun.

“Mae ennill y wobr genedlaethol hon yn beth gwych mewn cyfnod cymharol fyr o amser, a gobeithio y bydd yn fy helpu i ddatblygu fy ngyrfa. Fodd bynnag, y wobr orau yw gweld fy myfyrwyr yn datblygu.”

O ran y dyfodol, meddai: “Rwy’n datblygu llu cadetiaid cyntaf y coleg ar hyn o bryd, ac fe hoffwn i fwrw ymlaen â hynny. Rwyf hefyd yn arwain cwrs Diploma Cenedlaethol Uwch mewn gwasanaethau cyhoeddus, a hoffwn fynd â’r myfyrwyr o lefel un i lefel pump.”

Mae’r ffaith ei fod wedi wynebu cyfnodau tywyll ei hun yn gymorth iddo uniaethu â’i fyfyrwyr. Fe’i gadawyd mewn cadair olwyn ar ôl anafu ei gefn yn y Llu Awyr, gan wynebu llawdriniaethau niferus ac iselder dwys.

“Fe dreuliais i fy mlwyddyn gyntaf fel athro dan hyfforddiant mewn cadair olwyn, yr ail ar faglau, a’r drydedd brin yn gallu cerdded,”
meddai.

Mae Tom yn seilio’i ddarlithoedd ar ymddiriedaeth, cydraddoldeb, hiwmor a chynllunio gofalus. Treuliodd bedair blynedd yn lluoedd wrth gefn y fyddin, gan feithrin disgyblaeth y mae’n ei chyflwyno i’r ystafell ddosbarth. Mae 90% o’i fyfyrwyr yn mynd yn eu blaenau i ddysgu pellach.

Mae ei ddull ysbrydoledig o ddysgu yn ymestyn i’r byd digidol, lle mae wedi creu sianel YouTube i annog sgyrsiau grŵp a fforymau trafod. “Mae addysg wedi rhoi cyfle imi wneud pethau na chredais y gallwn i fyth eu gwneud, felly rwy’n awyddus i annog fy nysgwyr i gael y cyfle hwn hefyd,” meddai Tom.

Meddai James Young, pennaeth adran chwaraeon, twristiaeth a gwasanaethau cyhoeddus y coleg: “Ac yntau’n anabl yn gorfforol ac â dyslecsia, mae gan Tom brofiad o sut y gall rhwystrau effeithio ar ddysgu. Oherwydd hyn, mae Tom yn rhoi gwerth mawr ar gydraddoldeb.”

Mae cymwysterau galwedigaethol yn bwysig i’r economi, i gwmnïau ac i unigolion, gan eu bod yn darparu’r gweithwyr hyfforddedig a thalentog y mae busnesau mor awyddus i’w cael, a chan eu bod hefyd yn sicrhau bod gan bobl ifanc y sgiliau i lwyddo yn y byd addysg a'r byd gwaith.

Cafodd Tom ei longyfarch gan Eluned Morgan, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes. “Mae gwobr VQ yn arwydd o ymroddiad i broffesiwn penodol, ac yn dangos i bobl eraill eich bod wedi gwir ymrwymo i ddatblygu yn bersonol ac yn broffesiynol,” meddai.

“Mae’r gwobrau yn ein helpu i ddathlu cyflogwyr, dysgwyr a hyfforddwyr yng Nghymru sydd eisoes yn cymryd camau ychwanegol i ddatblygu sgiliau a chymwysterau galwedigaethol.”

Llywodraeth Cymru gyda chymorth gan Gronfa Cymdeithasol Ewrop sy’n ariannu’r Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru.