Mae Coleg Caerdydd a’r Fro wedi derbyn achrediad arian yn erbyn Safon Buddsoddwyr mewn Pobl, gan ddangos ei ymrwymiad i berfformiad uchel drwy reolaeth dda ar bobl.
Yn un o’r colegau Addysg Bellach mwyaf yn y DU, mae gan CCAF gyfleusterau o’r safon uchaf ledled Caerdydd a’r Fro ac mae’n trawsnewid addysg a hyfforddiant ar draws Prifddinas Ranbarth Cymru. Mae’n cefnogi ac yn datblygu 20,000 o fyfyrwyr bob blwyddyn drwy dîm o fwy nag 800 o arbenigwyr diwydiant, arbenigwyr sector a thimau cefnogi profiadol a gwybodus.
Buddsoddwyr mewn Pobl yw’r safon ryngwladol ar gyfer rheoli pobl, gan ddiffinio beth sy’n ofynnol i arwain, cefnogi a rheoli pobl yn effeithiol i gael canlyniadau cynaliadwy. Yn sail i’r Safon mae fframwaith Buddsoddwyr mewn Pobl, sy’n adlewyrchu’r tueddiadau diweddaraf yn y gweithle, sgiliau hanfodol a strwythurau effeithiol sy’n helpu busnesau i gefnogi a datblygu eu pobl er mwyn sicrhau’r canlyniadau gorau posib. Mae Buddsoddwyr mewn Pobl yn galluogi sefydliadau i feincnodi yn erbyn y gorau yn y maes ar raddfa ryngwladol.
Dywedodd Paul Devoy, Pennaeth Buddsoddwyr mewn Pobl: “Byddem yn hoffi llongyfarch Coleg Caerdydd a’r Fro, mae achrediad Buddsoddwyr mewn Pobl yn arwydd o gyflogwr gwych, gweithle sy’n rhagori ac ymrwymiad clir i lwyddo. Dylai Coleg Caerdydd a’r Fro fod yn eithriadol falch o’i gyflawniad.”
Gan gyfeirio at y dyfarniad, dywedodd Is Bennaeth Adnoddau Corfforaethol CCAF, Richard Pugsley: “Mae cael achrediad arian Buddsoddwyr mewn Pobl yn newyddion gwych i’r Coleg. Mae Buddsoddwyr mewn Pobl yn ymwneud â gwerthfawrogi a gwrando ar ein staff ni a gwneud CCAF yn lle grêt i weithio ynddo. Rydyn ni mor falch bod y cynnydd rydyn ni wedi’i wneud yn y meysydd yma wedi cael ei gydnabod.”
“Fel unigolion ac fel timau, mae pawb yn y Coleg wedi cyfrannu at ddatblygiad gweledigaethau CCAF ac mae’r achrediad arian yn dangos bod y staff yn byw y rhain yn eu hymddygiad o ddydd i ddydd. Mae mwy o waith i’w wneud ond mae gennym ni sylfaen gadarn i adeiladu arni ac rydyn ni’n gyffrous am barhau i ddatblygu fel sefydliad yn y dyfodol.”
Am fwy o wybodaeth am gynllun Buddsoddwyr mewn Pobl ewch i www.investorsinpeople.com