Mae Tracy Bird, Rheolwr Career Ready Coleg Caerdydd a’r Fro, wedi cael ei dewis gan Career Ready fel Pencampwr Cyflogadwyedd Santander 2018 ar gyfer Cymru, y Gorllewin a Chanolbarth Lloegr.
Mae’r wobr yn cydnabod ymrwymiad Tracy i wella cyfleoedd cyflogaeth dysgwyr y Coleg.
Dywedodd Tracy: “Mae’n anrhydedd bod wedi dod mor bell ac ennill y wobr yma oherwydd mae mwy na 300 o ganolfannau Career Ready yn y wlad yma. Er hynny, er fy mod i’n teimlo’n eithriadol freintiedig, mae hyn yn ymwneud mwy â fy myfyrwyr i a’u gwylio nhw’n datblygu i fod yn bobl ifanc lwyddiannus a fydd yn weithlu cadarn a hyderus i’n gwlad ni yn y dyfodol.
“Y nod ydi cefnogi breuddwydion y myfyrwyr a helpu ein dysgwyr ni i gyd i fod yn llwyddiannus yn y byd gwaith. Gwylio’r myfyrwyr yn trawsnewid o ddechrau eu blwyddyn academaidd nes eu bod nhw’n graddio ydi’r swydd orau yn y byd!”
Mae Career Ready yn elusen ledled y DU sy’n cysylltu cyflogwyr ag ysgolion a cholegau er mwyn agor byd gwaith i bobl ifanc 16 i 19 oed. Gall dysgwyr yn CAVC wneud cais am ymuno â’r rhaglen i redeg ochr yn ochr â’u cwrs a chael cymorth mentora, dosbarthiadau meistr, ymweliadau â gweithleoedd ac interniaethau.
“I ni yma yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro mae’r wobr yma’n golygu bod posib i ni ddathlu gwaith caled a chyflawniadau ein myfyrwyr Career Ready ni a helpu mwy o bobl ifanc i ddatblygu eu sgiliau, eu hyder a’u harbenigedd i roi cychwyn i ddyfodol llwyddiannus,” dywedodd Tracy.