HND mewn Busnes

L5 Lefel 5
Llawn Amser
10 Medi 2024 — 16 Mai 2026
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Ynghylch y cwrs hwn

Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn arbenigo mewn cynnig cyrsiau sy'n datblygu entrepreneuriaeth, sgiliau busnes a chyflogadwyedd i'r rheiny sydd â diddordeb mewn dechrau eu busnes eu hunain neu'n chwilio am yrfa mewn rheoli. 

Dyluniwyd yr HND i ddarparu dealltwriaeth eang o sefydliadau busnes a'r amgylchedd maent yn gweithredu ynddo.  Mae gan y rhaglen ffocws cryf ar reoli sy'n helpu ymgeiswyr llwyddiannus i ddatblygu at rolau rheoli.

Bydd hyn yn apelio i amrywiaeth eang o ymgeiswyr yn cynnwys:

  • unigolion sydd wedi gadael yr ysgol
  • oedolion sy'n dychwelyd i addysg
  • rhai sydd mewn cyflogaeth ac eisiau gwella eu rhagolygon gyrfa 
  • rhai sy'n hunan-gyflogedig ar hyn o bryd, neu'n dymuno bod yn hunan-gyflogedig ac angen sylfaen eang mewn busnes

Sut i wneud cais: Rydych yn gwneud cais ar gyfer y cwrs hwn drwy UCAS. Bydd y botwm ‘Ymgeisiwch Nawr’ yn mynd â chi i wefan cyrsiau UCAS.
Bydd angen y manylion canlynol arnoch:
Cod Cwrs –BS02, Cod Sefydliad – C16, Cod Campws - A, Enw Campws – Campws Canol y Ddinas
Am ragor o wybodaeth ewch i Cwblhau eich cais UCAS.

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Yn ogystal â bod yn gyfwerth â dwy flynedd o radd prifysgol, mae'r HND mewn Busnes yn gwella'r sgiliau ymarferol a phersonol sydd eu hangen mewn rôl yn y sector.  Mae'r cwrs wedi'i ddylunio ar gyfer unigolion sydd wedi gadael yr ysgol ac ymarferwyr sydd eisiau cyfoethogi eu datblygiad proffesiynol o fewn y diwydiant.  

Wedi'i arwain gan diwtoriaid profiadol, byddwch yn astudio'r modiwlau canlynol:

  • Busnes a'r Amgylchedd Busnes
  • Hanfodion Marchnata
  • Rheolaeth Adnoddau Dynol
  • Rheoli a Gweithrediadau
  • Cyfrifyddu Rheoli
  • Rheoli Prosiect Busnes Llwyddiannus (wedi'i osod gan Pearson)
  • Cyfraith Busnes
  • Entrepreneuriaeth a Rheoli Busnes Bach
  • Prosiectau Ymchwil (wedi'i osod gan Pearson)
  • Ymddygiad Sefydliadol
  • Cynllunio ar Gyfer Tyfu

Addysgu ac asesiadau 

  • Mae myfyrwyr yn mynychu am 30 wythnos y flwyddyn ar y rhaglen llawn amser.  
  • Mae'r rhaglen yn dilyn patrwm modwlar a bydd myfyrwyr yn astudio cyfwerth â 120 credyd ym mhob blwyddyn academaidd. 
  • Mae'r dulliau addysgu yn cynnwys darlithoedd, sesiynau rhoi gwybodaeth i'r grŵp cyfan, gweithdai, tiwtorialau, gwaith ymarferol, a beirniadaeth grŵp ac e-ddysgu cyfunol.
  • Lle bo'n bosib, mae elfen asesu'r cwrs wedi'i dylunio i efelychu'r amrywiaeth o dasgau y gall graddedigion y rhaglen ddod ar eu traws mewn cyflogaeth berthnasol. Lle bynnag bo hynny'n angenrheidiol, defnyddir dulliau asesu academaidd eraill hefyd, megis arholiad ffurfiol.
  • Bydd y gwaith ymarferol yn adlewyrchu technegau'r byd go iawn y byddai ymarferwyr yn dod ar eu traws yn y diwydiant adeiladu.
  • Gall yr ymgeiswyr sy'n cyflawni'r cymwysterau hyn fynd ymlaen i astudio cymwysterau academaidd a phroffesiynol pellach neu ddilyn gyrfa weinyddol, rheoli neu fasnachol.

Ffi'r cwrs fesul blwyddyn

Ffioedd Dysgu: £6,000.00

Gofynion mynediad

48 pwynt tariff UCAS wedi'u hennill o un ai:

  • Cyrsiau Safon Uwch
  • Diploma Estynedig Lefel 3 BTEC neu Ddiploma mewn pwnc perthnasol.
  • Diploma Mynediad at Addysg Uwch - 45 credyd ar lefel 3 wedi llwyddo yn y cwbl.
  • Efallai y derbynnir cymwysterau lefel 3 eraill.
  • TGAU mewn Mathemateg a Saesneg gyda lleiafswm o radd C (neu 4)
  • Mae Ymgeiswyr Rhyngwladol angen IELTS 5.5; ac mae'n rhaid iddynt allu Darllen ac Ysgrifennu ar lefel 6.5

Ystyrir ceisiadau gan fyfyrwyr hŷn, heb y gofynion mynediad sylfaenol ond â phrofiad gwaith perthnasol.

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

10 Medi 2024

Dyddiad gorffen

16 Mai 2026

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Llawn Amser

15 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau

Cod y cwrs

BSHE5F05
L5

Cymhwyster

BTEC Level 4 HNC in Business

Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach

7%

Erbyn 2025, rhagwelir y bydd y diwydiant hwn yn tyfu 7% ar draws Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, gan arwain at 2,500 o swyddi ychwanegol. (Lightcast 2021).

Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn gallwch ddod o hyd i gyflogaeth mewn ystod o sectorau neu barhau â'ch addysg yn y brifysgol.

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Campws Canol y Ddinas,

Heol Dumballs,

Caerdydd,

CF10 5FE