Gwasanaethau Cymorth Caledi ac Argyfwng

Gall CAVC gynnig cymorth i fyfyrwyr y DU sy'n ei chael hi'n anodd yn ariannol

Mae cymorth gan y cynlluniau isod yn dibynnu ar amgylchiadau unigolion ac nid yw wedi'i warantu. Mae'r ddau yn gyllid cyfyngedig ac mae'n bosibl na fyddant ar gael yn ystod y flwyddyn academaidd gyfan.

Cronfa Cymorth mewn Argyfwng
Gall myfyrwyr sy'n cael problemau gyda'u ceisiadau cyllid myfyrwyr, nad ydynt wedi cael eu taliad cyntaf eto ac mewn caledi o ganlyniad, wneud cais am y cyllid hwn. Mae'r asesiad yn seiliedig ar amgylchiadau unigol ac nid yw'r dyfarniadau wedi'u gwarantu. 
Am ragor o wybodaeth a ffurflen gais, cysylltwch gan ddefnyddio'r manylion cyswllt isod.

Cronfa Galedi
Gall myfyrwyr sy'n profi caledi tymor hirach, ar ôl cael eu cyllid myfyrwyr, wneud cais i'r Gronfa Galedi. Byddwch yn ymwybodol bod asesiad yn seiliedig ar amgylchiadau unigol ac nid yw'n warantedig y bydd myfyrwyr yn gymwys am ddyfarniad. Mae'r Gronfa Galedi yn gronfa o arian gyfyngedig ac felly nid oes gwarant y bydd ar gael drwy gydol y flwyddyn.
Pwysig yw cydnabod bod y Gronfa wedi'i sefydlu i weithredu fel rhwyd ddiogelwch, nid i ariannu penderfyniadau ffordd o fyw drud. Os oes gennych dreuliau megis ffonau symudol, gwyliau, aelodaeth o'r gampfa, Sky digital, neu gostau car nad yw'n hanfodol, bydd disgwyl i chi dalu am y rhain eich hun.  

Fel myfyriwr, mae'n hanfodol eich bod yn byw o fewn eich gallu ac yn cymryd camau i godi eich incwm a lleihau eich gwariant.
Ar gyfer y rheiny sy'n profi caledi, gellir cyflwyno cais o fis Hydref hyd at 6 wythnos cyn diwedd eich astudiaethau.
Am ragor o wybodaeth a ffurflen gais, cysylltwch gan ddefnyddio'r manylion cyswllt isod.

Cysylltwch â'r Tîm AU ar 07483 972897 neu anfonwch e-bost at naill ai awhite@cavc.ac.uk neu jwebb@cavc.ac.uk