Dydd Mercher 9 Mehefin 2021 am 10:30
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cynnal gweminar gyffrous ar 9fed Mehefin, 10:30-12pm, gan edrych ar sut i gynyddu amrywiaeth yn y gweithle.
Dyma’r siaradwyr:
Humie Webbe: Arweinydd Dysgu Seiliedig ar Waith, Cydraddoldeb Strategol ac Amrywiaeth y Ffederasiwn Hyfforddi Cenedlaethol
Gan ddefnyddio data Llywodraeth Cymru ac astudiaethau achos prentisiaethau, bydd Humie yn amlinellu'r heriau o ran denu dysgwyr amrywiol a sut rhoddir sylw i dangynrychiolaeth.
Deana Devine: Cydlynydd Ansawdd ar gyfer Skillnet
Bydd Deana yn amlinellu sut cyflwynodd Skillnet grwpiau EDI – Anabledd / Merched mewn Diwydiant / Du, Asiaidd a Lleiafrif Ethnig / LGBT+ / Mentora benywod, yr adnoddau maent yn eu defnyddio i ddenu dysgwyr, a sut maent yn hybu ar draws eu platfformau cyfryngau cymdeithasol.
Mae gennym westai arbennig, Immy – Prentis Cerbydau Modur Trwm, a fydd yn siarad am ei phrofiadau fel prentis.
Ali Abdi, Cydlynydd Arweiniol, a Nirushan Sudarsan, Cydlynydd Prosiectau, Citizens Cymru Wales a Thîm Gweithredu Cyflogaeth Butetown (BEAT)
Bydd Ali a Nirushan yn ymdrin â sut maent wedi gweithio gyda busnesau i fynd i'r afael â diweithdra drwy'r Cytundeb Swyddi Cymunedol. Mae'r Cytundeb Swyddi Cymunedol yn gytundeb dwyochrog rhwng y gymuned leol a'r cyflogwr, wedi'i gydgynhyrchu gan gyflogwyr a chymunedau gyda'i gilydd, ac wedi'i lofnodi gan gyflogwyr mawr fel Ikea, ITV Cymru, Gyrfa Cymru, a Senedd Cymru. Ei nod yw mynd i'r afael ag achosion o'r fath drwy ddod â phobl leol a chyflogwyr at ei gilydd i fynd i'r afael â thlodi, diweithdra a thangynrychiolaeth yn y gweithlu.
Bydd cyfle ar ddiwedd y digwyddiad hwn i ofyn cwestiynau i'r panel, a byddwn yn darparu pecyn adnoddau i’r cyfranogwyr, a fydd yn cael ei anfon at bawb sy’n bresennol ar ôl y digwyddiad.
Gobeithiwn eich gweld chi yno!
Mae hwn yn ddigwyddiad am ddim. I gofrestru eich presenoldeb, cliciwch yma.