18 Mai 2021

18/05/2021

Mae Gwobrau Prentisiaeth y QSA yn dathlu llwyddiant prentisiaid unigryw o bob rhan o'r Gynghrair Sgiliau Ansawdd, a Chyflogwyr ysbrydoledig sy'n gweithio'n galed i ddarparu'r profiad prentisiaeth gorau i ddysgwyr.

Rydym yn falch o wahodd holl staff, ffrindiau ac aelodau Consortiwm y QSA i ymuno â ni am noson Wobrwyo arbennig eleni. Bydd y Gwobrau'n cael eu ffrydio'n fyw ar YouTube a byddant yn cael eu harwain gan Cyflwynydd Teledu, Ross Harries, fel eich bod yn gallu tiwnio i mewn o gyfforddusrwydd eich cartref eich hun.

'Fyddwn ni ddim yn gallu gweld y gwesteion yn ystod y Gwobrau, felly mae croeso i chi fachu diod i ddathlu, manion i'w bwyta a gwisgo i fyny ar gyfer yr achlysur, neu fwynhau'r sioe yn eich pyjamas gyda phaned! Rhannwch eich dymuniadau da i'n henillwyr drwy wneud sylwadau ar y swyddogaeth Sgwrs Fyw ar Youtube neu drwy anfon neges atom ni ar Facebook, Instagram a Twitter gan ddefnyddio'r hashnod #QSAAwards2021 #GwobrauQSA2021.

https://youtu.be/clL5HJdNz24