BAFTA Guru Live Cymru

21 Maw 2020

BAFTA Guru Live yw gŵyl genedlaethol BAFTA sy’n cynnig cyngor ac ysbrydoliaeth gan yr arbenigwyr eu hunain. Bydd gweithdai, sesiynau Holi ac Ateb a dosbarthiadau meistr yn cael eu cynnal drwy gydol y dydd gan arbenigwyr blaenllaw y diwydiant, actorion llwyfan a sgrin, a thalent newydd. Mae hwn yn gyfle gwych i gael gwybod mwy am sut i ddilyn gyrfa yn y diwydiant, rhwydweithio neu ddim ond rhannu eich angerdd am bopeth cysylltiedig â ffilmiau, gemau a’r teledu.  

Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal rhwng 11am a 7pm ddydd Sadwrn 21ain Mawrth 2020 yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro, Campws Canol y Ddinas, Heol Dumballs, Caerdydd. 

Mae posib archebu’r gweithdai yn http://guru.bafta.org/guru-live-cardiff-2020 ac maent ar werth nawr. Mae BAFTA yn cynnig bargen 2 am £10 am bob gweithdy a dosbarth meistr, ac mae’r rhain yn agored i unrhyw un ddod iddyn nhw. 

Mae bwrsarïau tocynnau a theithio ar gael ar gyfer y rhai na fyddent yn gallu dod fel arall, heb gymorth ariannol. Am ragor o wybodaeth ac i wneud cais, ewch i http://guru.bafta.org/guru-live-cardiff-bursaries-2020.

Bydd lluniaeth ar gael ar y safle drwy gydol y dydd.