Ffair y Glas, y Barri

12 Medi 2019

Dechreuwch dymor newydd yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro a chymerwch ran yn ein Ffair y Glas flynyddol!

A hwnnw'r cyntaf o ddau ddigwyddiad, bydd y ffair hon yn cael ei chynnal ar Gampws y Barri ar Heol Colcot ar ddydd Iau 12fed Medi. Mae'r digwyddiad yn arddangos amrywiaeth o stondinau o elusennau i sefydliadau preifat, sefydliadau addysgol a grwpiau ar sail gweithgareddau.

Mae hwn yn gyfle gwych i ddod i wybod am bopeth sydd ar gael i chi fel myfyriwr yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro, a chofrestru i dîm chwaraeon newydd, gwirfoddoli i wneud peth gwaith elusennol, neu hawlio rhodd neu ddau! Mae gennym bob amser ystod wych o gwmnïau yn arddangos yn y ffeiriau, a byddwn yn sicrhau bod gemau hwyliog a phrofiadau newydd i chi gymryd rhan ynddynt hefyd, megis ein profiad troedio'r planc rhithwir, neu wal ddringo a reolir gan gyfleuster dringo gwych Caerdydd, Boulders. A'r newyddion gorau, mae'r cwbl ar gael i chi am ddim!

Os ydych yn sefydliad sy'n awyddus i arddangos yn y ffair hon, cysylltwch â events@cavc.ac.uk. Mae'r ffair yn denu dros 3000 o fyfyrwyr ar draws ein dyddiadau yn y Barri a Chaerdydd, ac mae'n gyfle gwych i farchnata eich sefydliad yn uniongyrchol i'ch marchnad darged!

Nodyn mewnol: Bydd gwybodaeth am y slotiau amser yn cael eu rhoi i benaethiaid adran cyn bob digwyddiad, ac argymhellwn yn gryf eich bod yn mynychu gyda'ch grŵp cwrs. Darperir cludiant i fyfyrwyr nad ydynt wedi'u lleoli ar gampysau Caerdydd a'r Barri. Byddwch yn ymwybodol y bydd mynediad i'r Ffreutur, Coleg Caerdydd a'r Fro, Heol Colcot, wedi'i gyfyngu o 08:00 hyd at 14:00 ar 12fed Medi.