Sylfeini Iechyd a Gofal

EL2 Lefel Mynediad 2
Llawn Amser
1 Medi 2027 — 22 Mehefin 2028
Campws Glannau’r Barri
Mae'r cwrs yma ar gael mewn lleoliadau gwahannol ac ar ddyddiadau/lefelau gwahannol.

Ynghylch y cwrs hwn

Cwrs rhagarweiniol yw hwn sydd wedi ei baratoi ar gyfer y rhai sydd wedi gadael yr ysgol sy'n dymuno dechrau eu gyrfa ym maes iechyd, gofal cymdeithasol neu ofal plant.

Mae’r cwrs hwn wedi ei gynllunio fel bod dysgwyr yn datblygu hyder, gwytnwch, a dealltwriaeth o hunanreolaeth wrth iddynt ennill sgiliau a gwybodaeth sy'n berthnasol i’r maes iechyd/gofal cymdeithasol/gofal plant.

Gall dysgwyr sy’n cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus symud ymlaen i gyrsiau Lefel 1 Iechyd a Gofal Cymdeithasol neu’n syth i Lefel 2 ar gyfer y rhai sy’n ennill y lefel briodol mewn Cymwysterau Sgiliau Hanfodol.

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Bydd myfyrwyr yn cael eu cyflwyno i ystod o fodiwlau ymarferol a damcaniaethol fydd yn rhoi cipolwg ar faes iechyd a gofal i'r dysgwr, sy'n faes gwerth ei wneud.

Mae’r cwricwlwm yn cydnabod bod dysgwyr ar y cwrs hwn yn dechrau eu haddysg coleg gyda gwahanol brofiadau o fyd addysg, ac mae’r cwrs wedi ei gynllunio i ddatblygu'r gallu i weithio ar y cyd ac yn annibynnol.

Gofynion mynediad

  • 3 TGAU ar raddau A-F*, gan gynnwys Saesneg a/neu Mathemateg.
  • Tystiolaeth eich bod yn ymgymryd â dysgu am o leiaf 18 awr yr wythnos. Os na allwch ddarparu'r dystiolaeth hon, efallai y cewch eich gwahodd i fynychu Diwrnod Profiad fel rhan o'r broses dderbyn. Mae hyn yn berthnasol yn enwedig i ddysgwyr sy'n cael eu haddysgu gartref (EHE) neu sy'n cael eu haddysgu mewn lleoliad heblaw ysgol (EOTAS).

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

1 Medi 2027

Dyddiad gorffen

22 Mehefin 2028

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Llawn Amser

18 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Glannau’r Barri
Mapiau a Chyfarwyddiadau

Cod y cwrs

FLCRHSCE2
EL2

Cymhwyster

Foundations of Health and Care

Lleoliadau

Campws Glannau’r Barri
Campws Glannau’r Barri

Campws Glannau’r Barri
Ffordd y Mileniwm,
Y Barri
CF62 5AT