Cefnogi Addysgu a Dysgu mewn Ysgolion

L2 Lefel 2
Rhan Amser
14 Medi 2026 — 10 Mai 2027
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mae'r cwrs yma ar gael mewn lleoliadau gwahannol ac ar ddyddiadau/lefelau gwahannol.

Ynghylch y cwrs hwn

Bydd y cymhwyster hwn yn galluogi dysgwyr i ddatblygu’r wybodaeth a’r sgiliau angenrheidiol i gefnogi addysgu a dysgu mewn ysgolion cynradd, uwchradd neu ysgolion arbennig. Mae’n cynnwys ystod eang o feysydd, gan gynnwys datblygiad plant a phobl ifanc, cefnogi’r rhai ag anableddau neu anghenion addysgol arbennig, a chyfathrebu a pherthnasoedd proffesiynol. Mae hefyd yn hanfodol ar gyfer pawb o’r rheiny sy’n ymgymryd â Phrentisiaeth Cefnogi Addysgu a Dysgu Lefel 2.

Mae’n addas i unrhyw un sy’n gweithio mewn rôl sy’n cefnogi dysgu disgyblion. Mae angen gwiriad DBS sy’n costio £65.50.

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Mae’r Dystysgrif yn gofyn am 32 credyd. Bydd yn cael ei hasesu gan eich tiwtor neu aseswr gan ddefnyddio ystod o ddulliau. Gallai hyn gynnwys arsylwi uniongyrchol yn y gweithle, portffolio o dystiolaeth, aseiniadau ysgrifenedig neu dasg.

Mae lleoliad gwaith 1 diwrnod gorfodol yn ofynnol gan yr ymgeisydd cyn dechrau’r cwrs, gan y bydd angen ichi fod yn gweithio, yn gwirfoddoli neu ar leoliad gwaith ymarferol, gan fod angen ichi ddangos cymhwysedd o ran gwybodaeth a sgiliau.

Nodwch fod gofyn i fyfyrwyr/ymgeiswyr ymgymryd â Gwiriad DBS (gwiriad heddlu) cyn dechrau unrhyw hyfforddiant galwedigaethol neu brofiad gwaith ym Maes Gofal neu’r Blynyddoedd Cynnar. Cyfrifoldeb y myfyriwr fydd hyn.

Ffïoedd cwrs

Ffi Arholiad : £115.00

Ffi Cofrestru: £45.00

Ffi Cwrs: £570.00

Gofynion mynediad

Rhaid bod yn o leiaf 18 oed. Gwiriad DBS Manwl a chyfredol. Llythrennedd a Rhifedd Lefel 1 - sgriniwr ar gael ar gais. Trefnir lleoliadau cyn dechrau’r cwrs.

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

14 Medi 2026

Dyddiad gorffen

10 Mai 2027

Amser o'r dydd

yn y nôs

Rhan Amser

3 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau

Cod y cwrs

TLCC2P10
L2

Cymhwyster

Supporting Teaching & Learning in Schools

Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach

  • Cyflogaeth
  • Grŵp cymwysterau Lefel 3 Cefnogi Addysgu a Dysgu 
  • Cynorthwyydd Addysgu
  • Cynorthwyydd Cymorth Dysgu
  • Cynorthwyydd Anghenion Addysgu Ychwanegol

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Campws Canol y Ddinas,

Heol Dumballs,

Caerdydd,

CF10 5FE