Cyflwyniad i Ysgolion Fforest

Mae'r cwrs yma ar gael mewn lleoliadau gwahannol. Dewiswch leoliad.

Ynghylch y cwrs hwn

Mae'r cwrs hwn wedi ei gynllunio ar gyfer athrawon, cymorthyddion dosbarth, darparwyr gofal plant ac addysgwyr sydd â diddordeb mewn hyrwyddo ysgolion Fforest, cynaliadwyedd ac addysg awyr agored a'u rhoi ar waith.

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Byddwch yn astudio sut i greu ysgol fforest, meysydd datblygiad plant, theori addysgol, cadwraeth coetir a hamdden, theori therapiwtig ac arloesol yn yr awyr agored, asesiadau risg i alluogi addysg awyr agored, cyfrifoldebau cyffredin, coginio mewn pydew tân a chymorth cyntaf.

Ffi'r cwrs fesul blwyddyn

Ffi Cwrs: £52.50

Ffi Cofrestru rhan amser: £10.00

Ffi Arholiad : £31.00

Gofynion mynediad

Dymunol – cymhwyster gofal plant, addysgu neu gefnogi addysgu a dysgu.

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol
This course is presented in several different locations, please choose the one convenient for you above.

Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach

Ar ôl gorffen y cwrs hwn, gallwch fynd ymlaen i ddilyn:

  • Cwrs ysgol fforest Lefel 2
  • Cymhwyster gofal plant
  • Cymhwyster cefnogi addysgu a dysgu

Lleoliadau

Campws y Barri
Campws y Barri

Coleg Caerdydd a'r Fro,

Campws y Barri,

Bro Morgannwg,

CF62 8YJ

Neuadd Llanrhymni
Neuadd Llanrhymni

Ball Rd, 
Llanrumney, 
Caerdydd, 
CF3 4JJ