Hyfforddi Chwaraeon

L3 Lefel 3
Llawn Amser
2 Medi 2024 — 20 Mehefin 2025
Campws Chwaraeon Rhyngwladol Caerdydd

Ynglŷn â'r cwrs

Bydd y cymhwyster hwn yn rhoi cyfle i unigolion sydd â diddordeb mewn chwaraeon ddatblygu eu sgiliau, gwybodaeth a dealltwriaeth i lefel uwch. Bydd yn paratoi dysgwyr i symud ymlaen i ystod o gyrsiau eraill, gan gynnwys Blwyddyn 2 a sectorau perthnasol eraill.

Mae gan y cwrs gyfuniad o ddarpariaeth ddamcaniaethol ac ymarferol. Mae’n hanfodol fod dysgwyr yn cymryd rhan yn holl agweddau'r ddarpariaeth.

Mae’r cwrs yn gyfwerth ag 1.5 cymhwyster Safon Uwch.

Beth fyddwch yn ei astudio?

Bydd y cwrs yn cynnwys 3 uned orfodol, sef:

  • Ymarfer corff, iechyd a ffordd o fyw
  • Paratoi ar gyfer gyrfa ym maes chwaraeon
  • Hyfforddi chwaraeon a gweithgarwch corfforol

Mae 6 uned ddewisol arall y mae’n rhaid eu cwblhau, gall y rhain gynnwys:

  • Chwaraeon Tîm Ymarferol
  • Egwyddorion Profi Ffitrwydd,
  • Egwyddorion Anatomeg

  • Seicoleg Chwaraeon

Mynediad at y Tŷ Chwaraeon sy’n cynnwys neuadd chwaraeon aml-bwrpas, trac athletau, Caeau 3G, a stiwdio ffitrwydd a champfa aml-bwrpas.

Gofynion mynediad

5 TGAU A*-C yn cynnwys Saesneg Iaith a/neu Fathemateg (neu gyfwerth) neu gymhwyster Lefel 2 perthnasol mewn Chwaraeon

Hyfforddi Chwaraeon

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

2 Medi 2024

Dyddiad gorffen

20 Mehefin 2025

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Llawn Amser

18 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Chwaraeon Rhyngwladol Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau

Cod y cwrs

SPCC3F03
L3

Cymhwyster

NCFE Diploma (540) Lefel 3 mewn Chwaraeon a Gweithgarwch Corfforol

Mwy

Beth mae ein myfyrwyr yn ddweud?

Rhagolygon Gyrfa ac Astudiaeth Bellach

8,000

Mae gan Alwedigaethau Chwaraeon weithlu cynyddol o dros 8,000 gydag amcangyfrif o 1,600 o swyddi ychwanegol erbyn 2026 ym Mhrifddinas Ranbarth Caerdydd. (Lightcast, 2022).

Ar ôl cwblhau'r cwrs, gall dysgwyr symud ymlaen i Flwyddyn 2 diploma estynedig mewn Chwaraeon. Bydd y cymhwyster yn cefnogi dysgwyr sydd eisiau symud ymlaen i Addysg Uwch, gan greu cyfleoedd cyflogaeth yn y pen draw. Ar ben hynny, bydd dysgwyr yn gallu ystyried cyfleoedd hyfforddi a phrentisiaethau.

Lleoliadau

Campws Chwaraeon Rhyngwladol Caerdydd
Campws Chwaraeon Rhyngwladol Caerdydd

Campws Chwaraeon Rhyngwladol Caerdydd,
Heol Lecwydd,
Caerdydd,
CF11 8AZ