Mae’r cwrs Chwaraeon a Hamdden Actif Lefel 3 NCFE yn datblygu gwybodaeth a sgiliau sy’n berthnasol i ochr fasnachol, y cyfryngau a gweithredol y diwydiant chwaraeon, gan gynnwys busnes chwaraeon, marchnata digwyddiadau a rheoli hamdden.
Bydd dysgwyr yn meithrin dealltwriaeth o sut mae sefydliadau chwaraeon yn gweithredu, hyrwyddo eu hunain, ymgysylltu gyda chynulleidfaoedd a darparu gwasanaethau effeithiol ar draws y sector hamdden iach.
Bydd y cwrs yn cynnwys 3 uned orfodol, sef:
Mae yna 6 uned ddewisol pellach sy’n rhaid eu cwblhau, a gall y rhain gynnwys:
Bydd gennych fynediad at yr holl gyfleusterau Chwaraeon a Ffitrwydd yn CISC/HoS fel rhan o’ch cwrs.
5 TGAU A* - C gan gynnwys Iaith Saesneg a/neu Gymraeg a/neu Fathemateg neu Ddiploma Lefel 2 mewn Chwaraeon
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Wnes i ddim mwynhau’r ysgol gymaint â hynny, felly roedd symud draw i’r Coleg yn galluogi i mi gael dechrau newydd. Dewisais y cwrs hwn oherwydd y cyfleusterau gwych sydd yma, a’r addysgu rhagorol. Mae astudio Chwaraeon yn llawn amser wedi rhoi’r cyfle i mi ganolbwyntio ar rywbeth rwy’n meddwl cryn dipyn amdano yn hytrach na threulio fy amser ar bynciau nad oedd gen i ddiddordeb ynddyn nhw. Mae’r gymysgedd o elfennau theori ac ymarferol wedi helpu i wella fy ngwybodaeth am y pwnc ac i wella fy mherfformiad ar y cae hefyd.
Gall dysgwyr symud ymlaen i lwybrau Addysg Uwch megis graddau Busnes Chwaraeon, Marchnata Chwaraeon, Darlledu Chwaraeon, Rheoli Digwyddiadau a Hamdden, a graddau cysylltiedig eraill o fewn y diwydiant chwaraeon.
Mae’r cymhwyster hefyd yn cefnogi mynediad i yrfaoedd o fewn cyfryngau chwaraeon, datblygu chwaraeon cymunedol, rheoli canolfannau hamdden, rolau marchnata a chyfathrebu o fewn sefydliadau chwaraeon a chyfleoedd ar draws y diwydiant chwaraeon a hamdden actif.