Mae hwn yn gwrs rhagarweiniol sydd wedi’i fwriadu ar gyfer rhai sy’n gadael ysgol ac sy’n dymuno symud ymlaen i weithio o fewn Chwaraeon neu Wasanaethau Cyhoeddus. Mae’r cwrs hwn wedi ei gynllunio fel bod dysgwyr yn datblygu hyder, cydnerthedd, a dealltwriaeth o hunanreolaeth wrth iddynt feithrin sgiliau a gwybodaeth sy'n berthnasol i weithio yn y meysydd cwricwlwm hyn.
Bydd myfyrwyr yn cael eu cyflwyno i amrywiaeth o fodiwlau theori ac ymarferol fydd yn cynnig golwg graff ar beth yw’r dewisiadau o ran gyrfa o fewn y meysydd arbenigol yma.
Bydd dysgwyr y gweithio gyda thiwtoriaid pwnc arbenigol er mwyn datblygu eu sgiliau chwaraeon, dysgu sut i ddatblygu rhaglenni hyfforddi gyda hyn, datblygu sgiliau arweinyddiaeth drwy gyfrwng gweithgareddau awyr agored.
Mae’r cwricwlwm yn cydnabod bod dysgwyr ar y cwrs hwn yn dechrau eu haddysg coleg gyda gwahanol brofiadau o fyd addysg, ac mae’r cwrs wedi ei lunio i ddatblygu'r gallu i weithio ar y cyd ac yn annibynnol.
Byddai ymgeiswyr yn elwa o gyflawni 3 TGAU ar radd D - F. Fel arall, ystyrir ymgeiswyr ar sail cyfweliad a sgan sgiliau boddhaol, a'r rheiny sydd â'r awydd a'r ymrwymiad i gyflawni'r cwrs y dymunant ei astudio.
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Bydd dysgwyr sy’n cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus gyda Theilyngdod yn cael symud ymlaen i gwrs naill ai ym maes gwallt neu harddwch dros y flwyddyn ganlynol.