L3 Lefel 3
Rhan Amser
Cysylltwch â ni ar gyfer y dyddiadau
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Ynghylch y cwrs hwn

BPEC Lefel 3 Systemau Ffotofoltäig Solar Domestig Mae'r cwrs dros bedwar diwrnod hwn wedi'i gynllunio gan BPEC gyda'r nod o gynnig y sgiliau a gwybodaeth y mae trydanwyr eu hangen i osod systemau ffotofoltäig (PV) ar raddfa fach. Mae’r cwrs hwn wedi’i strwythuro i fodloni anghenion y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol a chaiff ei gydnabod fel arddangosiad o gymhwysedd ar gyfer y Cynllun Ardystio Microgynhyrchu (MCS). 

Efallai eich bod yn gymwys i astudio’r cwrs am ddim drwy PLA - gweler yma

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Mae'r asesiadau ar gyfer y cwrs hyfforddiant yn cynnwys arholiad amlddewis ar-lein ac asesiad ymarferol mewn amgylchedd efelychol. Rhaid ichi ddod â 2x llun pasbort a'ch tystysgrifau cymwysterau ar ddiwrnod cyntaf y cwrs er mwyn sefyll asesiadau'r cwrs hwn.

Ffi'r cwrs fesul blwyddyn

Ffi Cwrs: £501.73

Ffi Arholiad : £65.50

Gofynion mynediad

Rhaid i ymgeiswyr fod yn gyfarwydd â fersiwn ddiweddaraf rheoliadau weirio BS7671 Diwygiad 2022 cyn ymgeisio ar gyfer y cwrs hwn, a chymhwyster arolygu a phrofi L3, ac wedi’u cwblhau.

I gofrestru ar y cymhwyster hwn rhaid i ymgeiswyr fod yn drydanwyr cymwys a meddu ar un o’r cymwysterau isod sy’n seiliedig ar waith a choleg.

Cymhwyster Trydanol NVQ Lefel 3 a Thystysgrif AM2 (Crefft)

Cymhwyster Gweithiwr Electrodechnegol Profiadol Lefel 3 a Thystysgrif AM2 (Crefft).

Neu

Cerdyn Aur ECS cyfredol, fel Trydanwr JIB, neu Drydanwr Cymeradwy.

Neu

Aelod o gynllun person cymwys cyfredol (NAPIT neu NICIEC) ac Arolygu a Phrofi L3.

Nid yw tystysgrifau technegol L2 a L3 coleg yn unig/Cymwysterau sy’n Gysylltiedig â Galwedigaeth (VRQ) unigol yn dderbyniol.

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

Cysylltwch â ni ar gyfer y dyddiadau

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Rhan Amser

32 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau

Cod y cwrs

RTCC3PX2
L3

Cymhwyster

BPEC Level 3 Award in the Installation and Maintenance of Small Scale Solar Phot

Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach

Cwrs Gosod Offer Gwefru Cerbydau Trydan.

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Y Ganolfan Foduro, 
Campws Canol y Ddinas, 
Heol Dumballs, 
Caerdydd, 
CF10 5FE