Academi Arloesi Digidol

L3 Lefel 3
18 Ionawr 2027 — 15 Ebrill 2027
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Ynghylch y cwrs hwn

Datgloi eich potensial gyda'n Hacademi Arloesi Ddigidol flaengar, a ddyluniwyd ar y cyd ag arweinwyr y diwydiant – gan gynnwys CCAF, ACT, FinTech Wales Skills Group, a sefydliadau technoleg o'r radd flaenaf. Mae'r rhaglen hon wedi'i chreu i fynd i'r afael â'r bwlch sgiliau yn y diwydiant technoleg, gan roi sgiliau sydd eu hangen a chymwysterau gwerthfawr i chi, er mwyn hybu eich rhagolygon gyrfa. 

Pam astudio gyda CCAF?

Rydym yn cynnig cwricwlwm sy'n canolbwyntio ar y diwydiant, a ddyluniwyd gyda mewnbwn gan sefydliadau technoleg blaenllaw. Enillwch gymwysterau gwerthfawr a datblygwch sgiliau meddal craidd.

Manteision Unigryw:

  • Cyfleoedd i roi hwb i'ch Gyrfa: Partneriaethau gyda chwmnïau technoleg lleol sydd wedi ymrwymo i gyfweld â phob graddedig.
  • Profiad ymarferol o weithio ar brosiectau.
  • Cymorth Ariannol: Lwfans hyfforddiant wythnosol o £150, ynghyd â chymorth ariannol ychwanegol ar gael.

P'un a ydych chi newydd adael yr ysgol, wedi graddio o'r brifysgol, neu'n rhywun sy'n ceisio rhoi bywyd newydd i'ch gyrfa, mae'r rhaglen hon wedi'i chynllunio i'ch arfogi â'r sgiliau y mae sefydliadau technoleg yn eu gwerthfawrogi.

Cliciwch ar yr is-benawdau isod i gael mwy o wybodaeth!

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Cynhelir y cwrs hwn trwy sesiynau wyneb yn wyneb dan arweiniad, dysgu strwythuredig a chefnogaeth un-i-un, rhwng 9.30am a 4pm, 4 diwrnod yr wythnos, am 11 wythnos.

Ymgollwch mewn cwricwlwm cynhwysfawr:

  • Cymhwyster Lefel 3 Agored Cymru
  • Sgiliau Datblygu Ehangach: Cewch gyflwyniad i Fframwaith Rheoleiddio FinTech, profiad ymarferol o ddefnyddio GitHub a deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol (generative AI) i greu a phrofi asiantau Copilot. Gall yr asiantau hyn ateb cwestiynau a chefnogi llifoedd gwaith yn y gweithle; byddwch hefyd yn cydweithio ag eraill ac yn llunio portffolio proffesiynol.
  • Cefnogaeth Unigol trwy gydol y Rhaglen
  • Sgiliau Meddal ar gyfer Cyflogadwyedd: Datblygwch sgiliau hanfodol ar gyfer y gweithle, deallwch y fframwaith rheoleiddio, ac ymarferwch sgiliau cyfweld.
  • Ymgysylltu â Chyflogwyr FinTech: Cysylltwch ag arbenigwyr yn y diwydiant a gweithiwch ar brosiectau tîm sy'n adlewyrchu heriau'r gweithle. Adeiladwch eich rhwydwaith a chynyddwch eich amlygiad i ddarpar gyflogwyr. 

Caledwedd a Meddalwedd

Bydd angen i chi gael mynediad at cyfrifiadur sy'n bodloni'r manylebau gofynnol i redeg y feddalwedd sydd ei hangen. Edrychwch ar yr adran 'Cyfleusterau' isod i weld a yw eich cyfrifiadur yn addas ar gyfer y feddalwedd ofynnol.  
Os nad oes gennych fynediad at cyfrifiadur, gallwch fenthyg un, ond yn ystod oriau dosbarth yn unig. (Nifer cyfyngedig ar gael) 
Mae Deallusrwydd Artiffisial (AI) Generatif yn hyblyg; felly, disgwylir i chi addasu'n eithaf cyflym i ymateb i unrhyw newidiadau a allai godi.  

Ymgysylltu â Chyflogwyr

Mae sefydliadau technoleg lleol sy'n bartneriaid wedi ymrwymo i gynnal cyfweliadau gyda phawb sy'n cwblhau'r modiwlau gofynnol. Sylwch nad yw hyn yn gwarantu swydd.  
Mae'r Academi a'r cyfle am gyfweliad wedi'u cynllunio i roi'r sgiliau a'r profiad i chi sydd eu hangen i hybu eich hyder wrth wneud cais am swyddi yn y dyfodol. 

Cymorth Ariannol  
Os oes gennych gyfyngiadau ariannol neu rwystrau sy'n eich atal rhag mynychu'r academi, mae cymorth ariannol ar gael hefyd (e.e. tuag at gostau gofal plant neu gostau teithio).  
Ni ellir hawlio'r lwfans hyfforddi wythnosol o £150 na'r cymorth ariannol nes eich bod wedi dechrau'r cwrs; mae'r rhain hefyd yn dibynnu ar eich presenoldeb trwy gydol y cwrs. 
Sylwch y gallai'r lwfans hyfforddi hwn effeithio ar unrhyw fudd-daliadau rydych yn eu derbyn.

Cyfleusterau

 Bydd angen mynediad at cyfrifiadur sydd â'r manylebau gofynnol i redeg y feddalwedd angenrheidiol.

Gwiriwch eich cyfrifiadur i sicrhau ei fod yn bodloni'r gofynion sylfaenol ar gyfer rhedeg y feddalwedd [Intel i3 - 3.40GHz neu well, gydag o leiaf 8GB o RAM; neu AMD Ryzen 5 - 3.2GHz neu well, gydag o leiaf 8GB o RAM].

Meddalwedd

  • Mynediad llawn i'r meddalwedd/gwefannau safonol canlynol:
  • Microsoft Teams 
  • Porwr Gwe (Edge, Chrome, Safari, Firefox, ac ati) 
  • Microsoft Office/Office 365 
  • OneDrive 
  • OneFile
     

Efallai y bydd angen dolenni at feddalwedd ychwanegol yn ystod y rhaglen.

Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch cael mynediad at y feddalwedd uchod, siaradwch â'ch tiwtor a/neu'ch cyswllt ag CCAF; byddant yn gallu eich helpu i ddod o hyd i ateb amgen.

Gofynion mynediad

Gofynion hanfodol:

• Bod yn 19+ oed

• Bod yn byw yng Nghymru

• Ddim mewn addysg llawn amser

• Bod ag A*- C mewn TGAU Saesneg, neu ILETS lefel 5+, neu Ascentis ESOL L2 neu uwch

• Bod â dawn a brwdfrydedd dros godio (neu gymhwyster mewn maes pwnc yn y sector perthnasol). Ar ôl cofrestru eich diddordeb, cewch eich gwahodd i gyfweliad

Os byddwch yn llwyddiannus, byddwch wedyn yn cael eich gwahodd i lenwi ffurflen gais ar-lein.

Beth mae ein myfyrwyr yn ei ddweud

"Mae'r cwrs wedi fy rhoi sgiliau gwerthfawr i mi sydd wir yn chwenychedig o fewn y diwydiant FinTech. Mae wedi rhoi'r hyder i mi ymgeisio am amrywiaeth o swyddi ac rydw i'n gyffrous wrth feddwl am yr holl gyfleoedd y bydd yn ei ddod." A. Peart, Academi Codio 2022

"Rwy'n hynod o ddiolchgar i CCAF am ddarparu'r cwrs wnes i ei fwynhau'n fawr. Rwyf wir yn gwerthfawrogi'r cyfle ac fe wnaeth y cwrs gyflawni ei fwriad drwy alluogi i mi ddechrau cyflogaeth mewn Fintech yn ne Cymru." L. Crews, Academi Codio 2022 

Dulliau addysgu ac asesu

Cymysgedd o arholiadau, gwaith prosiect a gwaith portffolio. 

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

18 Ionawr 2027

Dyddiad gorffen

15 Ebrill 2027

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau

Cod y cwrs

CSCA3F
L3

Cymhwyster

Coding Academy Front End

Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach

Mae sefyliadau partner Technoleg lleol yn ymrymo i gyfweld pawb sy’n cwblhau’r modiwlau gofynnol. 

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Campws Canol y Ddinas,

Heol Dumballs,

Caerdydd,

CF10 5FE