Diwedd yr Academi Codio

L3 Lefel 3
Rhan Amser
Cysylltwch â ni i gael dyddiadau.
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
£: Mae'r cwrs hwn yn rhad ac am ddim i oedolion neu oedolion sydd yn cael budd-daliadau penodol. Os ydych chi'n gymwys, nid ydych yn talu'r 'Ffi cwrs' a restrir o dan 'Ffi cwrs flynyddol'. Gellir codi ffi gofrestru o £10-40. Bydd angen talu unrhyw ffi gofrestru broffesiynol / ffi arholiad / ffi arall a restrir. Gall cefnogaeth ariannol fod ar gael ar gyfer y costau hyn. I ddysgu mwy ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding

Ynghylch y cwrs hwn

Datglowch eich potensial gyda’n Hacademi Codio yn y Cefndir arloesol! Wedi ei gyd-ddylunio ag arweinwyr y diwydiant, gan gynnwys CCAF, Grŵp Sgiliau FinTech Wales, a sefydliadau technoleg blaenllaw, mae’r cwrs hwn wedi ei deilwra i fynd i’r afael â’r prinder sgiliau yn y diwydiant technoleg.


Mae Codio yn y Cefndir yn cynnwys Cronfeydd Data, egwyddorion DB a SQL ar gyfer rôl sy’n canolbwyntio ar weithredoedd tu ôl i’r llenni.


Pam astudio gyda CCAF?

Rydym yn cynnig cwricwlwm sy’n canolbwyntio ar y diwydiant ac sydd wedi ei ddylunio gyda mewnbwn gan sefydliadau Technoleg blaenllaw. Byddwch yn ennill cymwysterau gwerthfawr ac yn datblygu sgiliau meddal craidd.


Buddion Arbennig:

  • Cyfleoedd i Hybu Gyrfa: Cwmnïau technoleg lleol sydd mewn partneriaeth wedi ymrwymo i gyfweld yr holl raddedigion.

  • Cymorth Ariannol: Lwfans hyfforddiant o £150 yr wythnos a chymorth ariannol ychwanegol ar gael.


P’un a ydych newydd adael yr ysgol, wedi graddio o’r brifysgol, neu yn rhywun sydd eisiau ail-sbarduno eu gyrfa, mae’r rhaglen hon wedi ei dylunio i’ch darparu â’r sgiliau y mae sefydliadau technoleg yn eu gwerthfawrogi.


Cliciwch ar yr isdeitlau isod am ragor o wybodaeth!


Beth fyddwch chi’n ei astudio

Caiff y cwrs hwn ei gyflwyno drwy sesiynau wyneb yn wyneb wedi eu hwyluso, dysgu strwythuredig a chymorth un-i-un o 9.30am - 4pm, 5 diwrnod yr wythnos, am 11 wythnos. 

Mentrwch i gwricwlwm cynhwysfawr:

  • Tystysgrif Agored Cymru Lefel 3 mewn Datblygu Meddalwedd: Codio, Cymwysiadau Cronfeydd Data, Ymarfer Proffesiynol mewn cymhwyster TG
  • Datblygu Sgiliau Ehangach: Gwella eich medrusrwydd codio
  • Rheoli Prosiect CompTIA Agile: Meistroli cymhwyster methodoleg agile
  • Sgiliau Meddal ar Gyfer Cyflogaeth: Datblygu sgiliau allweddol y gweithle
  • Ymgysylltu â’r Cyflogwr FinTech: Cysylltu ag arbenigwyr y diwydiant


Caledwedd a Meddalwedd

Byddwch angen gliniadur gyda manylebau isaf i redeg y meddalwedd angenrheidiol. Darllenwch yr adran ‘Cyfleusterau’ isod i weld os yw eich gliniadur chi yn briodol ar gyfer y meddalwedd angenrheidiol.

Os nad oes gennych ddefnydd o liniadur, gallwch fenthyg un yn ystod amseroedd yn y dosbarth yn unig.

Ymgysylltu â chyflogwyr

Mae sefydliadau Technoleg lleol sy’n bartneriaid wedi ymrwymo i gyfweld pob unigolyn sy’n cwblhau’r modiwlau angenrheidiol. Noder, nid yw hyn yn addo swydd.

Mae’r cyfle Academi a Chyfweliad hwn wedi ei ddylunio i’ch darparu â’r sgiliau a’r profiadau i wella eich hyder wrth ymgeisio am swyddi yn y dyfodol.

Cymorth Ariannol

Os oes gennych chi unrhyw gyfyngiadau ariannol neu rwystrau rhag mynychu'r academi, mae cymorth ariannol hefyd ar gael (e.e., tuag at ofal plant, costau teithio).

Ni allwch hawlio’r lwfans hyfforddiant o £150 yr wythnos na’r cymorth ariannol hyd nes eich bod wedi dechrau’r cwrs ac mae’n dibynnu ar eich presenoldeb drwy gydol y cwrs.

Noder, efallai y bydd y lwfans hyfforddiant yma’n effeithio ar unrhyw fudd-daliadau rydych chi'n eu derbyn

Gofynion mynediad

Gofynion hanfodol:

• Bod yn 19+ oed

• Bod yn byw yng Nghymru

• Ddim mewn addysg llawn amser

• Bod ag A*- C mewn TGAU Saesneg, neu ILETS lefel 5+, neu Ascentis ESOL L2 neu uwch

• Bod â dawn a brwdfrydedd dros godio (neu gymhwyster mewn maes pwnc yn y sector perthnasol). Ar ôl cofrestru eich diddordeb, cewch eich gwahodd i gyfweliad

Os byddwch yn llwyddiannus, byddwch wedyn yn cael eich gwahodd i lenwi ffurflen gais ar-lein.

Cyfleusterau

Byddwch angen gliniadur gyda manylebau isaf i redeg y meddalwedd angenrheidiol. 

Byddwch angen mynediad at gyfrifiadur/gliniadur gyda'r manylebau isaf.

Gwiriwch eich gliniadur os gwelwch yn dda er mwyn sicrhau bod ganddo'r gofynion isaf sydd eu hangen ar gyfer rhedeg y meddalwedd [Intel i3 - 3.40Ghz neu well ac o leiaf 8GB o ram neu AMD Ryzen 5 - 3.2Ghz neu well ac o leiaf 8GB o ram]. 

Meddalwedd: 

Mynediad llawn i'r meddalwedd/gwefannau safonol canlynol: 

  • Microsoft Teams 
  • Porwr Gwe (Edge, Chrome, Safari, Firefox a.y.y.b.) 
  • Microsoft Office/Office 365 
  • OneDrive 

Mynediad llawn i'r meddalwedd canlynol sydd wedi'i deilwra'n arbennig ac i'r cyfan o'r llyfrgelloedd: 

  • Anaconda (1 Lawrlwythiad) 
  • Sublime Text (1 Lawrlwythiad) 
  • Microsoft SQL Server Management Studio (2 Lawrlwythiad) 
  • Anvil (1 Lawrlwythiad) 

Dolenni i feddalwedd

https://www.anaconda.com/products/distribution 
https://docs.microsoft.com/en-us/sql/ssms/download-sql-server-management-studio-ssms?view=sql-server-ver16 
https://www.microsoft.com/en-gb/sql-server/sql-server-downloads 
https://www.sublimetext.com/ 
https://anvil.works/

Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch cael mynediad at y meddalwedd uchod, siaradwch gyda'ch tiwtor a/neu gyswllt CCAF fydd yn gallu eich cefnogi chi gyda datrysiad amgen.

Beth mae ein myfyrwyr yn ei ddweud

"Mae'r cwrs wedi fy rhoi sgiliau gwerthfawr i mi sydd wir yn chwenychedig o fewn y diwydiant FinTech. Mae wedi rhoi'r hyder i mi ymgeisio am amrywiaeth o swyddi ac rydw i'n gyffrous wrth feddwl am yr holl gyfleoedd y bydd yn ei ddod." A. Peart, Academi Codio 2022

"Rwy'n hynod o ddiolchgar i CCAF am ddarparu'r cwrs wnes i ei fwynhau'n fawr. Rwyf wir yn gwerthfawrogi'r cyfle ac fe wnaeth y cwrs gyflawni ei fwriad drwy alluogi i mi ddechrau cyflogaeth mewn Fintech yn ne Cymru." L. Crews, Academi Codio 2022 

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

Cysylltwch â ni i gael dyddiadau.

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Rhan Amser

30 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau
£: Mae'r cwrs hwn yn rhad ac am ddim i oedolion neu oedolion sydd yn cael budd-daliadau penodol. Os ydych chi'n gymwys, nid ydych yn talu'r 'Ffi cwrs' a restrir o dan 'Ffi cwrs flynyddol'. Gellir codi ffi gofrestru o £10-40. Bydd angen talu unrhyw ffi gofrestru broffesiynol / ffi arholiad / ffi arall a restrir. Gall cefnogaeth ariannol fod ar gael ar gyfer y costau hyn. I ddysgu mwy ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding

Cod y cwrs

CSCA3B
L3

Cymhwyster

Coding Academy Back End

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Campws Canol y Ddinas,
Heol Dumballs,
Caerdydd,
CF10 5FE