Cyflogadwyedd a Sgiliau Bywyd

Mae'r cwrs yma ar gael mewn lleoliadau gwahannol. Dewiswch leoliad.

Ynghylch y cwrs hwn

Mae ein cyrsiau Gwaith a Bywyd ar gyfer pobl ifanc sy'n parhau i feithrin sgiliau i fyw bywydau hapus ac annibynnol yn eu cymuned leol wrth archwilio a datblygu sgiliau ar gyfer cyflogadwyedd.

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Drwy gydol y flwyddyn academaidd, bydd dysgwyr yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o sesiynau, yn yr ystafell ddosbarth, eu cymuned leol ac mewn cyfleusterau hyfforddi seiliedig ar waith ar y safle ac oddi ar y safle. Mae ein hymagwedd at y cwricwlwm bob amser yn cael ei harwain gan ddysgwyr, gyda dysgwyr yn pennu cyflymder dilyniant trwy’r gweithgareddau hyn. Nod pob gweithgaredd dysgu yw hwyluso datblygiad sgiliau yn y meysydd canlynol.

· Cyflogadwyedd

· Cymuned

· Sgiliau byw'n annibynnol

· Iechyd a lles.

Bydd sgiliau hanfodol (mathemateg a Saesneg) yn cael eu hymgorffori yn y meysydd hyn ac mae pob cwrs wedi'i gynllunio i ganolbwyntio ar ddatblygu sgiliau cyfathrebu a hunaneiriolaeth. Mae hwn yn gwrs heb ei achredu, sy'n rhoi cyfle i ddysgwyr feithrin sgiliau, gwybodaeth a hyder. Bydd gan ddysgwyr nodau dysgu personol yn seiliedig ar eu dyheadau hirdymor.

Gofynion mynediad

Bydd angen ichi ymgymryd â chwrs er mwyn datblygu sgiliau Byw’n Annibynnol, yn ogystal ag archwilio sgiliau mewn perthynas â chyflogadwyedd. Bydd angen ichi fynychu diwrnod profiad a chyfweliad anffurfiol cyn cael eich derbyn ar y cwrs.

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol
This course is presented in several different locations, please choose the one convenient for you above.

Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach

Mae'r cyrsiau hyn wedi'u cynllunio i adeiladu sgiliau i baratoi dysgwyr ar gyfer y cyrchfan mwyaf addas. Os byddwch yn dangos dilyniant yn eich targedau cyflogadwyedd efallai y byddwch yn gallu symud ymlaen i’n cwrs Paratoi ar gyfer Gwaith. Er mwyn symud ymlaen i interniaeth â chymorth o flaen llaw yn CAVC mae'n rhaid eich bod wedi cymryd rhan mewn lleoliadau gwaith a dangos parodrwydd i ddatblygu sgiliau cysylltiedig â gwaith pellach. Os nad ydych yn barod i symud ymlaen ar ôl cwblhau eich cwrs, efallai y cewch gynnig ail flwyddyn ar y cwrs hwn os:

1. Hon oedd eich blwyddyn gyntaf yn y coleg

2. Rydych wedi gwneud cynnydd yn erbyn eich targedau

Mwy...

Beth mae ein myfyrwyr yn ei ddweud

Mae'r cwrs hwn wedi fy helpu gyda fy annibyniaeth ac wedi datblygu fy hyder. Roeddwn i a fy rhieni ychydig yn nerfus cyn i mi ddechrau'r rhaglen, ond mae wedi bod yn brofiad gwych. Rydw i wedi gallu mynd hefyd ac o'r campws yn hawdd, hyd yn oed gyda llwybr bws hir. Rwyf yn edrych ymlaen at ddatblygu i'r cam nesaf.

Lili Rees
Rhaglen Internïaeth â Chefnogaeth Barod

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Campws Canol y Ddinas,

Heol Dumballs,

Caerdydd,

CF10 5FE

Campws y Barri
Campws y Barri

Coleg Caerdydd a'r Fro,

Campws y Barri,

Bro Morgannwg,

CF62 8YJ