Internïaeth â Chefnogaeth: On-SITE

EL3 Lefel Mynediad 3
Llawn Amser
3 Medi 2024 — 28 Mehefin 2025
Lleoliad Cymunedol

Ynghylch y cwrs hwn

Mae Interniaethau a Gefnogir yn gyfnod pontio i raglen waith sy’n ymrwymedig i drawsnewid bywydau pobl ifanc gydag anghenion dysgu ychwanegol.

Mae CAVC yn cynnig tair rhaglen amser llawn ar draws y rhanbarth ac o fewn ystod o fusnesau a diwydiannau cynnal. Bydd y myfyrwyr, a elwir yn interniaid, yn cwblhau cyfres o gyfnodau profiad gwaith ystyrlon fel gweithwyr cyflogedig, yn gweithio mewn gwahanol rolau mewn gwahanol adrannau.

Mae’r mathau o gyfleoedd gyda phob un o'r busnesau sy’n cynnal y cwrs yn cynnwys;

Prifysgol Caerdydd

- Gweinyddu

- Cyfathrebiadau

- Marchnata

- Peirianneg

- Cynnal a Chadw

- Ymchwil

Dow Silicones

- Gweinyddu

- Logisteg

- Labordai

- Warws/Storfeydd

- Cynhyrchu

- Cabolwaith

Gwesty Parkgate (newydd ar gyfer 2024/25)

- Blaen Tŷ

- Bwyd a Diod

- Porthor Cegin

- Cadw Tŷ

- Cyfleusterau

Bydd panel yn adolygu pob cais a bydd ymgeiswyr yn mynychu cyfweliad anffurfiol i bennu addasrwydd ar gyfer y rhaglen. Bydd sgiliau cyflogadwyedd yn cael eu cwblhau yn ystod sesiynau datblygiad addysgol a phersonol/proffesiynol a fydd yn gweithio tuag at dargedau a nodau personol.

Cefnogir internïaid gan dîm ar y safle a fydd yn cynnwys

- Tiwtor Cwrs

- Hyfforddwr Swydd (Yn cefnogi sesiynau ystafell ddosbarth a thasgau yn y gweithle)

- Asiantaeth Cyflogaeth a Gefnogir (Yn cefnogi datblygiad personol a datblygiad i yrfaoedd)

Cynhelir y cwrs 5 diwrnod yr wythnos, fel arfer rhwng 9:00am - 4.00pm. Noder y gallai’r amseroedd hyn amrywio ychydig mewn rhai adrannau neu rolau.

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Bydd cynlluniau personol sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn yn cael eu creu i gefnogi internïaid mewn pedwar maes allweddol:

· Annibyniaeth

· Cyflogadwyedd

· Iechyd a Lles

· Chymuned drwy ddysgu seiliedig ar brosiect

Disgwylir i internïaid gwblhau hyfforddiant ar gyfer y gweithle gyda’r busnes sy’n cynnal y cwrs i fodloni’r hyn sy’n ddisgwyliedig gan weithwyr cyflogedig.

Cefnogir pob intern i osod nifer o dargedau ac amcanion personol a fydd yn gweithio tuag at eu datblygiad personol a’u cyflogaeth.

Dulliau addysgu ac asesu

  • Gosod targedau personol gyda thystiolaeth o gyflawniad
  • Tîm ar y safle a chynnal arsylliadau/adborth busnes/datganiadau tystion
  • Gweithgareddau ystafell hyfforddiant
  • Dysgu seiliedig ar brosiect
  • Matrics datblygu sgiliau
  • Hyfforddiant cymorth swydd ar y safle

Cyfleusterau

Mae’r Busnesau sy’n cynnal y cwrs yn darparu:

  • Ystafell hyfforddiant ar y safle
  • Amrywiaeth o adrannau gweithle

Gofynion mynediad

· Rhwng oedrannau 16 – 24 (18+ i internïaid Dow Silicones), ar 1 Medi 2024

· Bod â Chynllun Datblygiad Personol (IDP)/EHCP neu anabledd/anhawster dysgu

· Dyhead i ennill cyflogaeth am dâl

· Gweithio tuag at ddatblygu ei annibyniaeth a’i gyfleoedd cyflogaeth

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

3 Medi 2024

Dyddiad gorffen

28 Mehefin 2025

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Llawn Amser

24.5 awr yr wythnos

Lleoliad

Lleoliad Cymunedol
Mapiau a Chyfarwyddiadau

Cod y cwrs

WPCCPS02
EL3

Cymhwyster

ILS Learning Programme (Pathway 4)

Mwy...

Beth mae ein myfyrwyr yn ei ddweud
Ewan DOW

Gwnes i wirioneddol fwynhau’r cyfle i ddysgu mewn amgylchedd gwaith a wnaeth fy arwain at wneud y penderfyniad i wneud cais am internïaeth gyda Prosiect SEARCH yn Dow Silicones yn y Barri. Ar ddechrau’r rhaglen, roeddwn i’n teimlo’n eithaf pryderus ond gyda chymorth y tîm prosiect SEARCH a'r staff yn Dow, roeddwn i’n hyderus mai hwn oedd y cyfeiriad cywir i mi yn fuan iawn.

Yn ystod fy nghyfnod ar y prosiect SEARCH yn gweithio ar fy interniaethau sylweddolais ar y newid yn fy hun am y tro cyntaf. Roeddwn yn gallu cymhwyso’r sgiliau a’r wybodaeth a enillais yn ystod Workskills i amgylchedd gwaith gwirioneddol ac ynghyd â’r Prosiect SEARCH roeddwn yn gallu mynd â’r sgiliau hynny i lefel nesaf. Rwyf wedi bod yn ymwybodol o rai o'r rhwystrau sydd wedi fy nal yn ôl erioed ac roedd y rhain yn cynnwys trefn a ffocws. Mae’r rhain yn ddau beth rwyf wedi bod eisiau eu goresgyn erioed ac wrth weithio’n agos gyda fy hyfforddwyr roeddem yn gallu rhoi’r technegau ar waith i ddod yn llawer mwy trefnus yn y gweithle a chanolbwyntio’n gyson ar fy nhasgau.

Erbyn diwedd fy interniaethau ar y Prosiect SEARCH roedd gen i ffydd newydd ynof i fy hun a’m gallu. Rwyf wastad wedi bod eisiau profi i bawb y gallaf fod yn llwyddiannus ac ar ôl cyfnodau profiad gwaith cadarnhaol iawn roeddwn yn ddigon ffodus i ennill gyrfa yn CF10 Manwerthu yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro.

Rwyf mor ddiolchgar am bob cyfle rwyf wedi ei gael a’r cymorth rwyf wedi ei gael yn ystod fy nhaith. Oni bai am Goleg Caerdydd a’r Fro, Prosiect SEARCH a Dow Silicones ni fyddwn wedi cyrraedd lle ydw i heddiw.

Ewan Heppenstall
Interniaeth Dow Silicones, ar hyn o bryd yn gweithio yn Simply Fresh, Dumballs Road fel Cynorthwyydd Gwasanaeth Cwsmer/Siop