Cyflwynir ein Diploma BTEC Sgiliau'r Cyfryngau a Chreu Cynnwys Lefel 1 gan Media Academy Cymru (MAC), ar Gampws y Barri. Mae hwn yn gwrs llawn amser sy’n cyflwyno myfyrwyr i feysydd allweddol y sector cyfryngau creadigol. Mae'r cwrs yn canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau ymarferol y myfyrwyr mewn meysydd megis dylunio gwefan; ffotograffiaeth; photoshop; sgiliau ffilmio a chamera, yn cynnwys sut i ddefnyddio offer proffesiynol a meddalwedd.
Mae'r rhaglen BTEC Lefel 1 hwn yn cynnwys 10 modiwl, yn cynnwys: Dylunio, Ffotograffiaeth, Fideo, Animeiddio, Cynhyrchu Sain, Amlgyfrwng a Golygu. Bydd pob modiwl yn canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau ymarferol myfyrwyr i greu cynnyrch cyfryngau unigryw megis cerddoriaeth fideo, podlediadau, ffilmiau wedi'u hanimeiddio, arddangosfeydd lluniau, hysbysebion a gwefannau.
Bydd y gwaith a gynhyrchir ar gyfer pob modiwl yn sail ar gyfer asesiad. Drwy gydol y flwyddyn byddwch yn datblygu portffolio cynhwysfawr a fydd yn allweddol ar gyfer eich dilyniant i mewn i addysg neu gyflogaeth yn y dyfodol. A chewch gyfle hefyd i ddilyn cymhwyster sgiliau hanfodol mewn rhifedd a llythrennedd.
Mae MAC yn ymfalchïo mewn darparu dosbarthiadau mewn amgylchedd hamddenol a chynhwysfawr, a chanolbwyntio ar eich cryfderau a'ch helpu chi i fagu eich hyder. Byddwch yn dysgu mewn grŵp bach sy'n cynnwys rhwng 12 a 16 o fyfyrwyr. Mae presenoldeb o 90% ac uwch yn allweddol wrth i chi gwblhau'r cwrs yn llwyddiannus.
Mae'r cwrs yn cynnwys 10 modiwl gwaith cwrs.
Bydd yr holl offer yn cael ei ddarparu gan MAC.
Nid oes angen profiad blaenorol, ac nid oes unrhyw ofynion mynediad ffurfiol. Fodd bynnag, byddai'n ddefnyddiol pe baech eisoes wedi cyflawni BTEC Lefel 1 mewn astudiaethau'r cyfryngau, ffilm neu TG neu os oes gennych brofiad cyfatebol. Byddwch yn cael eich gwahodd i gyfarfod eich tiwtoriaid er mwyn i chi allu penderfynu, ar y cyd, pa mor addas ydych chi ar gyfer y cwrs. Unwaith y byddwch wedi eich derbyn ar y cwrs, byddwch yn cael eich gwahodd ar gyfer sesiwn blasu ac i gwblhau proffil myfyriwr. Rydym yn croesawu ceisiadau yn arbennig gan fyfyrwyr nad ydynt wedi gallu dod o hyd i gyfleoedd tebyg mewn mannau eraill, sydd mewn perygl o brofi allgáu cymdeithasol, ac nad ydynt mewn addysg, hyfforddiant na chyflogaeth. Mae’r cwrs ar gael i unrhyw un rhwng 16-25 mlwydd oed.
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Bydd cyfranogwyr yn gallu symud ymlaen i astudio cwrs cyfryngau creadigol neu ffilm yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro, neu yn cael cefnogaeth i ddod o hyd i addysg bellach, prentisiaeth, hyfforddiant neu gyflogaeth. Mae'r cwrs hwn yn ddelfrydol ar gyfer unrhyw un sy'n ystyried gyrfa yn y diwydiant creadigol. Byddwn yn eich cefnogi i sicrhau eich lleoliad nesaf.
'Mae tiwtoriaid yn trin myfyrwyr â pharch, mae'r myfyrwyr eraill yn gyfeillgar, mae'r gwaith yn cael ei egluro'n glir, mae'r testunau'n ddiddorol ac rwyf wedi dysgu cymaint o sgiliau newydd.'
'Rwy’n teimlo'n ddiogel yn MAC ac mae pobl yn fy neall.'