Deall Ôl-osod Domestig (CDP)

L2 Lefel 2
Rhan Amser
Cysylltwch â ni i gael dyddiadau.
Ar-lein
PLA: Mae'r cwrs yn rhad ac am ddim i oedolion cyflogedig sy'n gymwys i gael Cyfrif Dysgu Personol (PLA). I weld a allech fod yn gymwys i gael PLA ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding - I gael rhestr lawn o gyrsiau PLA ewch i www.cavc.ac.uk/PLA

Ynghylch y cwrs hwn

Y cymhwyster hwn yw’r man delfrydol i chi ddechrau eith taith ôl-osod. Ychydig ddiwrnodau mae’n cymryd i’w gwblhau a bydd yn rhoi dealltwriaeth dda i chi o’r hyn mae ôl-osod domestig yn ei olygu. Mae’r cymhwyster hwn yn berthnasol i amrywiaeth eang o bobl, gan gynnwys y rhai sydd eisoes yn gweithio yn y sector, y rhai sy’n ystyried ymuno â’r sector a’r rhai y mae’r sector yn effeithio arnynt.

Dyma rai o’r prif alwedigaethau a fyddai’n cael budd o’r cymhwyster hwn. Plastro, Gwaith Saer, Gwaith Coed, Rendro, Gosod Pympiau Gwres a Gosod Paneli Solar. Cynghorydd Ôl-osod, Asesydd Ôl-osod, Cydlynydd Ôl-osod a Dylunydd Ôl-osod, Swyddogion Cyswllt Tenantiaid, Rheolwr Asedau, a Swyddogion Ynni a Chynaliadwyedd.

Rhaid i chi gael mynediad i gyfrifiadur/gliniadur i ymgymryd â'r hyfforddiant hwn a gallu llwytho meddalwedd arholiadau i lawr.

Mae'r cwrs AM DDIM hwn ar gael i oedolion sy'n gymwys am Gyfrif Dysgu Personol (PLA) yn unig. Mae Cyfrifon Dysgu Personol, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, ar gael i oedolion cyflogedig sy'n byw yng Nghymru sy'n dymuno gwella sgiliau er mwyn datblygu neu newid gyrfa. 
Canfyddwch a ydych yn gymwys heddiw.

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Os ydych yn anghyfarwydd â’r maes ôl-osod domestig bydd yn rhoi cyflwyniad cynhwysfawr, hawdd ei ddilyn i chi o ôl-osod tai cyfan. Os oes gennych rywfaint o brofiad o brosiectau effeithlonrwydd ynni yn barod, bydd yn cynyddu eich gwybodaeth i roi’r darlun cyfan o ôl-osod domestig i chi.

Bydd dysgwyr yn dod i ddeall beth yw ôl-osod domestig, beth dylai ei gyflawni, beth mae angen i chi ei wybod os ydych yn gweithio yn y diwydiant, ac am beth i gadw llygad wrth osod mesurau effeithlonrwydd ynni mewn cartrefi.

Mae’r cwrs wedi’i ddylunio i wella cyflogadwyedd dysgwyr. Mae cyflogwyr yn chwilio mwy a mwy am staff sy’n deall hanfodion ôl-osod.

  1. Cyflwyniad i Ôl-osod Domestig
  2. Gwybodaeth am Ôl-osod Domestig
  3. Iechyd a Diogelwch
  4. Deunyddiau Ôl-osod Domestig
  5. Diogelu’r Ardal Waith
  6. Gwybodaeth am Gontractau Ôl-osod
  7. Prosesau Gosod Ôl-osod Domestig Cyffredin

Addysgu ac Asesu

Hunanastudio ar-lein
Mae’n cymryd tua 21 awr i gwblhau’r saith modiwl a gallwch naill ai wneud hyn dros dri diwrnod neu astudio ar gyflymder sy’n addas i chi, eich ffordd o fyw a’ch ymrwymiadau.

Mae hunanbrofion wedi’u hymgorffori yn y dysgu.

Dosbarth un diwrnod dan arweiniad tiwtor gydag Arholiad Amlddewis wedi’i oruchwylio o bell ar ddiwedd y cwrs. 

Cymhwysedd

16+ oed a mynediad i gyfrifiadur personol / gliniadur gyda rhyngrwyd 

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

Cysylltwch â ni i gael dyddiadau.

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Rhan Amser

11 awr yr wythnos

Lleoliad

Ar-lein
Mapiau a Chyfarwyddiadau
PLA: Mae'r cwrs yn rhad ac am ddim i oedolion cyflogedig sy'n gymwys i gael Cyfrif Dysgu Personol (PLA). I weld a allech fod yn gymwys i gael PLA ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding - I gael rhestr lawn o gyrsiau PLA ewch i www.cavc.ac.uk/PLA

Cod y cwrs

CSUNDR2RET
L2

Cymhwyster

Cskills Awards Level 2 Award in Understanding Domestic Retrofit