Technegau Taenlen (CDP)

L2 Lefel 2
Rhan Amser
1 Ebrill 2026 — 3 Mehefin 2026
Ar-lein
£: Mae'r cwrs hwn yn rhad ac am ddim i oedolion neu oedolion sydd yn cael budd-daliadau penodol. Os ydych chi'n gymwys, nid ydych yn talu'r 'Ffi cwrs' a restrir o dan 'Ffi cwrs flynyddol'. Gellir codi ffi gofrestru o £10-40. Bydd angen talu unrhyw ffi gofrestru broffesiynol / ffi arholiad / ffi arall a restrir. Gall cefnogaeth ariannol fod ar gael ar gyfer y costau hyn. I ddysgu mwy ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding

Ynghylch y cwrs hwn

Cafodd ein cwrs Technegau Taenlenni lefel 2 ei ddylunio i ddatblygu sgiliau a gwybodaeth ar gyfer defnyddio taenlenni ar gyfer tasgau cyffredin, megis crynhoi ac arddangos data.

Mae hwn yn gwrs ymarferol iawn, gyda llawer o gyfleoedd i brofi eich dealltwriaeth. Byddwch yn cael eich addysgu gan ddefnyddio Microsoft Excel.

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Ar y cwrs hwn, byddwch yn dysgu sut i:

  • Ddefnyddio taenlenni i storio a threfnu data

  • Defnyddio fformiwla a ffwythiant i grynhoi a thrin data
  • Cynrychioli data rhifiadol ar ffurf graffiau

Wedi ei gwblhau'n llwyddiannus, byddwch yn derbyn tystysgrif gan Agored Cymru.

Bydd tiwtor yn addysgu'r cwrs hwn o bell dros Microsoft Teams.  Ni fydd angen i chi brynu unrhyw feddalwedd ar gyfer y cwrs hwn.  Fodd bynnag, byddwch angen cyfrifiadur sy'n gweithio gyda seinyddion a mynediad at y Rhyngrwyd.  Byddai meicroffon yn ddefnyddiol, ond nid yn hanfodol.

Ffïoedd cwrs

Ffi Cofrestru rhan amser: £10.00

Ffi Cwrs: £50.00

Ffi Arholiad : £15.00

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

1 Ebrill 2026

Dyddiad gorffen

3 Mehefin 2026

Amser o'r dydd

yn y nôs

Rhan Amser

3 awr yr wythnos

Lleoliad

Ar-lein
Mapiau a Chyfarwyddiadau
£: Mae'r cwrs hwn yn rhad ac am ddim i oedolion neu oedolion sydd yn cael budd-daliadau penodol. Os ydych chi'n gymwys, nid ydych yn talu'r 'Ffi cwrs' a restrir o dan 'Ffi cwrs flynyddol'. Gellir codi ffi gofrestru o £10-40. Bydd angen talu unrhyw ffi gofrestru broffesiynol / ffi arholiad / ffi arall a restrir. Gall cefnogaeth ariannol fod ar gael ar gyfer y costau hyn. I ddysgu mwy ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding

Cod y cwrs

ITCC2P26
L2

Cymhwyster

Spreadsheet Techniques (PLA)

Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach

28%

Mae gan Brifddinas-Ranbarth Caerdydd glwstwr digidol llewyrchus gyda rhagamcanion o 6,000 o swyddi ychwanegol erbyn 2025, sy’n gyfanswm twf o 28% (EMSI 2019).

Lleoliadau

Ar-lein
Ar-lein