Crëwyd gwregys du Six Sigma ar gyfer unigolion sy'n gallu esbonio'r egwyddorion a’r syniadau y tu ôl i ardystiad Six Sigma. Gall gweithwyr proffesiynol neilltuo swyddogaethau i aelodau tîm sy'n gweddu i'w gallu, dangos arweinyddiaeth tîm a chydnabod deinameg tîm. Yn ogystal, dylai fod gan arbenigwyr Six Sigma ddealltwriaeth dda o adrannau model DMAIC.
Mae'r cwrs AM DDIM hwn ar gael i oedolion sy'n gymwys am Gyfrif Dysgu Personol (PLA) yn unig. Mae Cyfrifon Dysgu Personol, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, ar gael i oedolion cyflogedig sy'n byw yng Nghymru sy'n dymuno gwella sgiliau er mwyn datblygu neu newid gyrfa.
Hyd 10 diwrnod
Gwregys Gwyrdd a Melyn
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn gallwch symud ymlaen i'r cwrs 'Chwe Sigma Meistr Belt Du' i adeiladu ar eich gwybodaeth i ddod yn arbenigwr Lean Six Sigma.