Cydlynu Ôl-ffitio a Rheoli Risg (CDP)

L5 Lefel 5
Rhan Amser
Cysylltwch â ni i gael dyddiadau.
Ar-lein
PLA: Mae'r cwrs yn rhad ac am ddim i oedolion cyflogedig sy'n gymwys i gael Cyfrif Dysgu Personol (PLA). I weld a allech fod yn gymwys i gael PLA ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding - I gael rhestr lawn o gyrsiau PLA ewch i www.cavc.ac.uk/PLA

Ynghylch y cwrs hwn

Mae'r cwrs hwn yn cynnig e-Ddysgu hunan-dywys i chi gyda chefnogaeth ychwanegol Gwersyll Cydlynydd Ôl-ffitio 4½ diwrnod dan arweiniad arbenigwr, a gyflwynir ar Zoom. Mae'r Gwersylloedd rhithwir yma’n gyfanswm o 12 awr, yn cael eu cyflwyno drwy bedwar sesiwn (tair awr yr un) dros gyfnod o chwe wythnos.

Er mwyn cydymffurfio â PAS 2035 bydd angen i bob prosiect ôl-ffitio domestig gael ei reoli gan Gydlynydd Ôl-ffitio cymeradwy. Cydlynydd Ôl-ffitio yw'r unigolyn a fydd yn gyfrifol am oruchwylio'r asesiad o anheddau yn ogystal â'r fanyleb ddilynol, y monitro a'r gwerthuso ar y mesurau effeithlonrwydd ynni, yn unol â PAS 2035.

Bydd Cydlynydd Ôl-ffitio yn rheoli prosiect ôl-ffitio o'r dechrau i'r diwedd, a bydd angen iddo gysylltu â pherchnogion adeiladau, Aseswyr Ôl-ffitio, Dylunwyr Ôl-ffitio a Gosodwyr Ôl-ffitio er mwyn sicrhau rheolaeth effeithiol o'r dechrau i'r diwedd.

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Mae'r cwrs yn cynnwys deuddeg modiwl ynghyd ag astudiaeth achos gynhwysfawr. Mae pob modiwl yn cynnwys deunyddiau addysgu helaeth, cyflwyniadau arbenigol, astudiaethau achos a gweithgareddau sydd wedi'u cynllunio er mwyn rhoi dealltwriaeth fanwl i chi o theori ac ymarfer.

Modiwlau’r Cwrs

• Cyflwyniad i Ôl-ffitio Domestig

• Sicrwydd Ansawdd Ôl-ffitio a Rheoli Risg

• Ffiseg Adeiladu – Effeithlonrwydd Thermal

• Ffiseg Adeiladu – Rheoli Risg Lleithder

• Asesu Anheddau ar gyfer Ôl-ffitio

• Gwerthuso Opsiynau Gwella a Chynlluniau Ôl-ffitio Tymor Canolig

• Gwella Ffabrig yr Adeilad – Lloriau a Thoeau

• Gwella Ffabrig yr Adeilad – Waliau a Ffenestri

• Gwella Tynder Aer ac Awyru

• Gwella Gwasanaethau Adeiladau – Gwresogi, Dŵr Poeth, Goleuadau a Phŵer

• Gwella Gwasanaethau Adeiladau – Systemau Ynni Adnewyddadwy

• Profi, Monitro a Gwerthuso Ôl-ffitio 

Gofynion mynediad

Cymhwyster Adeiladu / ôl-ffitio Lefel 3 yn ofynnol neu brofiad helaeth mewn adeiladu / ôl-ffitio.

Addysgu ac asesu

Hunanastudio Ar-lein
Mae'r 12 modiwl yn cymryd tua 104 awr i'w cwblhau.

4 dosbarth ½ diwrnod dan arweiniad tiwtor ac wedyn Asesiad Pwynt Terfyn. Mae'n ofynnol i’r dysgwyr gyflwyno aseiniad ar gyfer pob modiwl, a fydd yn cael ei farcio gan eu haseswr.

Cymhwysedd

18+ oed, Cymhwyster Adeiladu / ôl-ffitio Lefel 3 yn ofynnol neu brofiad helaeth mewn adeiladu / ôl-ffitio.

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

Cysylltwch â ni i gael dyddiadau.

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Rhan Amser

4 awr yr wythnos

Lleoliad

Ar-lein
Mapiau a Chyfarwyddiadau
PLA: Mae'r cwrs yn rhad ac am ddim i oedolion cyflogedig sy'n gymwys i gael Cyfrif Dysgu Personol (PLA). I weld a allech fod yn gymwys i gael PLA ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding - I gael rhestr lawn o gyrsiau PLA ewch i www.cavc.ac.uk/PLA

Cod y cwrs

CS0DRCR
L5

Cymhwyster

Level 5 Diploma in Retrofit Coordination and Risk Management

Lleoliadau

Ar-lein
Ar-lein