Mae'r cwrs hwn ar gyfer staff ac arweinwyr tîm rheng flaen mewn unrhyw weithle. Bydd yn rhoi dealltwriaeth i chi o arferion da wrth roi hyfforddiant mewn sefydliadau a’r sgiliau sydd eu hangen arnoch chi, a bydd hefyd yn myfyrio ar roi hyfforddiant yn effeithiol mewn sefydliad. Mae’n addas ar gyfer dysgwyr ar bob lefel sydd eisiau datblygu eu gwybodaeth a’u sgiliau o roi hyfforddiant effeithiol mewn cyd-destun sefydliadol.
Mae'r pynciau yr ymdrinnir â nhw’n cynnwys:
Cyflwynir yn ystod pedwar gweithdy undydd. Aseiniadau i’w cwblhau rhwng gweithdai.
Darperir y gweithdai wyneb yn wyneb yn ACT Training, Ocean Park House, East Tyndall Street, Caerdydd, CF245ET
Mae'r cwrs yn darparu ar gyfer pob arddull dysgu gyda chyfuniad o weithgareddau a thiwtorialau.
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Byddwch yn dysgu model rhoi hyfforddiant cydnabyddedig, a’r offer a'r technegau i'w gefnogi, gan eich galluogi i weithio mewn rolau swyddi y mae’n ofynnol i chi gynnal sesiynau rhoi hyfforddiant dan oruchwyliaeth ynddynt.
Os ydych yn bwriadu symud i rôl ddatblygu yn eich sefydliad neu ddechrau gyrfa fel hyfforddwr a mentor llawrydd, gallwch ddewis symud ymlaen i lefel 5 o’r cymhwyster hwn.