Mae'r wobr hon ar gyfer dysgwyr mewn unrhyw rôl, waeth beth yw eu sector.
Mae'r cwrs hwn yn berffaith ar gyfer y rhai sy’n gweithio mewn sefydliadau sy’n gweithio tuag at sefydlu System Reolaeth Amgylcheddol fel ISO14001, neu sydd eisoes wedi rhoi system felly ar waith. Bydd y cwrs hwn yn rhoi dealltwriaeth i chi o bwysigrwydd bod yn sefydliad cynaliadwy.
Byddwch hefyd yn datblygu’r wybodaeth, y ddealltwriaeth a'r cymhelliant i wneud gwahaniaeth cadarnhaol, ar lefel bersonol ac yn y gweithle.
Mae'r cwrs AM DDIM hwn ar gael i oedolion sy'n gymwys am Gyfrif Dysgu Personol (PLA) yn unig. Mae Cyfrifon Dysgu Personol, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, ar gael i oedolion cyflogedig sy'n byw yng Nghymru sy'n dymuno gwella sgiliau er mwyn datblygu neu newid gyrfa.
Canfyddwch a ydych yn gymwys heddiw.
Byddwch yn datblygu dealltwriaeth sylfaenol o’r termau Amgylchedd, Cynaliadwyedd, Newid yn yr Hinsawdd a Sero Net wrth i chi ddysgu i uniaethu â dyfodol sgiliau gwyrdd.
Mae’r cwrs hwn yn gyfuniad o hunan-astudiaeth ar ffurf E-ddysgu a gweithdy undydd a gynhelir yng Nghaerdydd.
Byddwch yn cwblhau cwrs e-ddysgu cyn mynychu gweithdy rhyngweithiol undydd, wyneb yn wyneb a fydd yn darparu cyflwyniad ymarferol i gynaliadwyedd amgylcheddol.
Mae angen i’r hunan-astudiaeth ar ffurf E-ddysgu gael ei chwblhau cyn dyddiad y gweithdy.
Cynhelir y gweithdy yn:
ACT Training, Ocean Park House, East Tyndall Street, Caerdydd, CF245ET
Cwblheir yr Arholiad ar ddiwedd y Gweithdy.
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Cyfle i ddatblygu i: Tystysgrif Newid yn yr Hinsawdd, Cynaliadwyedd a’r Amgylchedd.
Mae’n arbennig o ddefnyddiol i'r rhai sy’n awyddus i weithio ym maes cynaliadwyedd neu sydd wedi cael cyfrifoldeb am gynaliadwyedd o fewn eu sefydliadau.