Mae’r cymhwyster hwn yn galluogi dysgwyr i arddangos ac adnabod eu sgiliau, gwybodaeth a dealltwriaeth, ac i arddangos eu cymhwysedd mewn amgylchedd gwaith go iawn, fel eu bod yn gallu gweithredu fel gweithiwr Insiwleiddio a Thriniaethau Adeiladau o fewn y diwydiant adeiladu.
Mae yna nifer o arbenigeddau o fewn y sector, ac mae’r cymhwyster wedi ei ddatblygu gyda Llwybrau sy’n eich galluogi i ymgymryd â chymaint ohonynt â phosib.
Rhaid i’ch holl waith gael ei gyflawni yn unol ag Arferion Gweithio Diogel y Diwydiant, yn ogystal â chydymffurfio gyda deddfwriaethau perthnasol.
Bydd dysgwyr yn ymgymryd ag 1 Llwybr er mwyn cyflawni’r NVQ. Efallai y byddant yn penderfynu ymgymryd â llwybrau pellach, a gellir trafod hyn yn dilyn ymrestriad llwyddiannus.
Llwybrau Posib:
Llwybr 1 - Cynnal a Chadw Coed ac Atal Lleithder
Llwybr 2 - Newid Rhwymwr Waliau
Llwybr 3 - Insiwleiddio Waliau Ceudod
Llwybr 4 - Insiwleiddio Lloriau Caled
Llwybr 5 - Insiwleiddio o dan y Llawr
Llwybr 6 - Insiwleiddio To Oer (Gan Gynnwys Lloft)
• Mae’n rhaid i ymgeiswyr fod â phrofiad yn eu maes dewisol.
• Mae’n rhaid i ymgeiswyr feddu ar lefel sylfaenol o lythrennedd.
• Mae’n rhaid i ymgeiswyr fod yn gyflogedig neu bod mewn sefyllfa lle gellir arsylwi gwaith sy’n mynd rhagddo.
• Mae’n bosibl y bydd angen sgiliau TG sylfaenol arnoch chi, ond nid yw hynny'n hanfodol.
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.