Bydd y cwrs hwn yn rhoi sylfaen o wybodaeth amgylcheddol a chynaliadwyedd i chi i adeiladu arni. Gan gwmpasu ystod eang o egwyddorion amgylcheddol, cynaliadwyedd a llywodraethu, bydd y cwrs hwn yn rhoi dealltwriaeth i ddysgwyr o ehangder yr agenda cynaliadwyedd, a'r adnoddau a'r sgiliau rheoli y bydd arnynt eu hangen wrth weithio yn y maes hwn.
Mae wedi'i lunio ar gyfer pobl sy'n dechrau gyrfa, neu'n newid i yrfa ym maes yr amgylchedd, neu swyddogaethau sy'n canolbwyntio ar gynaliadwyedd.
Gallwch wneud cais am flwyddyn o aelodaeth am ddim fel Aelod Cyswllt IEMA ar ôl cwblhau a phasio'r arholiad aml-ddewis yn llwyddiannus.
Mae'r cwrs AM DDIM hwn ar gael i oedolion sy'n gymwys am Gyfrif Dysgu Personol (PLA) yn unig. Mae Cyfrifon Dysgu Personol, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, ar gael i oedolion cyflogedig sy'n byw yng Nghymru sy'n dymuno gwella sgiliau er mwyn datblygu neu newid gyrfa.
Canfyddwch a ydych yn gymwys heddiw.
Mae cwrs Tystysgrif Sylfaen IEMA mewn Rheolaeth Amgylcheddol yn rhoi sylw i’r canlynol:
Mae hwn yn gwrs 5 diwrnod (40 awr), dan arweiniad tiwtor mewn ystafell ddosbarth ar-lein. Ar ddiwedd y pum diwrnod, byddwch yn sefyll arholiad un awr, aml-ddewis, llyfr agored, ar-lein.
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.