CompTIA Security+® (PLA)

L3 Lefel 3
Rhan Amser
Cysylltwch â ni i gael dyddiadau.
Ar-lein
PLA: Mae'r cwrs yn rhad ac am ddim i oedolion cyflogedig sy'n gymwys i gael Cyfrif Dysgu Personol (PLA). I weld a allech fod yn gymwys i gael PLA ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding - I gael rhestr lawn o gyrsiau PLA ewch i www.cavc.ac.uk/PLA

Ynghylch y cwrs hwn

Fel gweithiwr proffesiynol ardystiedig CompTIA Security+, byddwch yn gallu datblygu’r sgiliau i fod yn gyfrifol am warchod data, rhwydweithiau, adnabod bygythiadau ac ymateb i ddigwyddiadau. Mae'r cwrs hwn wedi’i deilwra’n berffaith ar gyfer gweithwyr proffesiynol TG sy’n dymuno datblygu at swyddi seiberddiogelwch, neu ar gyfer y rheiny sydd ar ddechrau eu gyrfaoedd. 

Mae’r CompTIA CASP+ yn rhaglen e-ddysgu gynhwysfawr sy’n cynnwys gwersi a gweithgaredau ymarferol y gallwch ail-ymweld â hwy mor aml ag y bydd ei angen. 
Mae’r rhaglen hon yn gofyn am oddeutu 37 awr, gydag argaeledd hyblyg yn unol â phatrymau gwaith personol.  

Bydd gan gynrychiolwyr 6 mis o’r dyddiad ymrestru i gwblhau'r rhaglen. Trefnir dyddiadau cwrs yn uniongyrchol gydag ALS Training unwaith y bydd cyllid wedi cael ei gymeradwyo. 

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Yn ystod y cwrs CompTIA Security+ cynhwysfawr, byddwch yn ennill dealltwriaeth fanwl o gysyniadau ac arferion diogelwch TG. Dyma beth allwch chi ddisgwyl ei ddysgu.

Maes Llafur Security+

    • Gwers 1: Crynhoi Cysyniadau Diogelwch Sylfaenol
    • Gwers 2: Cymharu Mathau o Fygythiad
    • Gwers 3: Egluro Datrysiadau Cryptograffig
    • Gwers 4: Gweithredu Rheoli Systemau Mynediad ac Adnabod
    • Gwers 5: Strwythur Rhwydwaith Menter Diogel
    • Gwers 6: Strwythur Rhwydwaith Cwmwl Diogel
    • Gwers 7: Egluro Cysyniadau Hydwythedd a Diogelwch Safle
    • Gwers 8: Egluro Rheoli Gwendidau
    • Gwers 9: Gwerthuso Galluoedd Diogelwch Rhwydwaith
    • Gwers 10: Asesu Galluoedd Diogelwch Terfynol
    • Gwers 11: Gwella Galluoedd Diogelwch Cymwysiadau
    • Gwers 12: Egluro Cysyniadau Monitro ac Ymateb i Ddigwyddiadau
    • Gwers 13: Dadansoddi Gweithgareddau â’r Potensial i fod yn Faleisus
    • Gwers 14: Crynhoi Cysyniadau Llywodraethu Diogelwch
    • Gwers 15: Egluro Prosesau Rheoli Risg
    • Gwers 16: Crynhoi Cysyniadau Cydymffurfiaeth a Diogelu Data


Labordai Ymarferol Ar-lein

    • Assisted Lab: Archwilio’r Amgylchedd Labordy
    • Assisted Lab: Gweithredu Dadansoddi Bylchau Cyfluniadau System
    • Assisted Lab: Enghreifftiau Cyflunio Mathau o Reoli Diogelwch
    • Assisted Lab: Canfod Pyrth Gwasanaeth Agored
    • Assisted Lab: Defnyddio SET i Weithredu Peirianneg Gymdeithasol
    • APPLIED LAB: Defnyddio Amgryptiad 
    • Assisted Lab: Defnyddio Clwydau ac Amrywiadau
    • Assisted Lab: Rheoli Diogelwch Cyfrinair
    • Assisted Lab: Rheoli Caniatâd
    • Assisted Lab: Sefydlu Mynediad o Bell
    • Assisted Lab: Defnyddio Twnelu TLS
    • Assisted Lab: Defnyddio Cynwysyddion
    • Assisted Lab: Defnyddio Rhithwirio
    • Assisted Lab: Gweithredu Storfeydd wrth gefn
    • Assisted Lab: Gweithredu Diheintio Gyriant
    • Assisted Lab: Gweithredu a Chanfod SQLi
    • Assisted Lab: Gweithio gyda Llif Bygythiadau
    • Assisted Lab: Gweithredu Sganio Gwendidau
    • Assisted Lab: Deall Sylfeini Diogelwch
    • Applied Lab: Gweithredu Wal Dân
    • Assisted Lab: Defnyddio Polisi Grŵp
    • Applied Lab: Caledu
    • Assisted Lab: Gweithredu Hidlo DNS
    • Assisted Lab: Monitro Systemau Cyflunio
    • Applied Lab: Ymateb i Ddigwyddiadau Canfod
    • Applied Lab: Gweithredu Fforensig Digidol
    • Assisted Lab: Gweithredu Dadansoddiad o Brif Achos
    • Assisted Lab: Canfod ac Ymateb i Faleiswedd
    • Assisted Lab: Deall Ymosodiadau Ar Lwybr
    • Adaptive Lab: Ddefnyddio Llawlyfr
    • Assisted Lab: Gweithredu Rhestrau Caniatáu a Gwrthod
    • Assisted Lab: Gweithredu Rhagchwiliadau
    • Assisted Lab: Gweithredu Profion Hacio
    • Assisted Lab: Hyfforddiant ac Ymwybyddiaeth drwy Efelychiad
    • Capstone Lab: Canfod Ymddygiad Afreolaidd
    • Assisted Lab: Defnyddio Achosion o Awtomatiaeth a Sgriptio
    • Applied Lab: Defnyddio Synwyryddion Rhwydwaith


Arholiad


Mae’r arholiad CompTIA Security SY0 701 yn rhan annatod o’r broses ardystio CompTIA Security+. Dyma rai manylion allweddol ynglŷn â’r arholiad:


  • Cod Arholiad: Y cod swyddogol ar gyfer yr arholiad ardystio hwn yw SY0-701.


  • Fformat yr Arholiad: Mae’r arholiad yn cynnwys cyfuniad o gwestiynau amlddewis a chwestiynau yn seiliedig ar berfformiad.


  • Nifer y Cwestiynau: Bydd yr arholiad yn cynnwys hyd at 90 cwestiwn.


  • Hyd yr arholiad: Bydd yr ymgeiswyr yn derbyn 90 munud i gwblhau’r arholiad.


  • Marc Pasio: Y marc pasio ar gyfer yr arholiad SY0-601 yw 750 (ar raddfa rhwng 100 a 900)


  • Diben yr Arholiad: Mae’r arholiad ardystiad SY0-701 CompTIA Security yn ardystiad niwtral o safbwynt gwerthwyr, sy’n tystio fod deilydd yr ardystiad yn meddu ar y sgiliau a gwybodaeth diogelwch angenrheidiol er mwyn cyflawni gweithrediadau diogelwch craidd.


  • Ail-ardystio: Er mwyn ail-ardystio, mae gofyn i ymgeiswyr ennill Unedau Addysg Barhaus (CEUs) drwy gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau a hyfforddiant sy’n ymwneud a diogelwch TG.


Nodwch fod arholiadau ardystio, polisïau a gweithdrefnau CompTIA yn gallu newid, felly gwiriwch wefan swyddogol CompTIA am y wybodaeth fwyaf diweddar cyn eich arholiad.

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

Cysylltwch â ni i gael dyddiadau.

Amser o'r dydd

yn y nôs

Rhan Amser

4.5 awr yr wythnos

Lleoliad

Ar-lein
Mapiau a Chyfarwyddiadau
PLA: Mae'r cwrs yn rhad ac am ddim i oedolion cyflogedig sy'n gymwys i gael Cyfrif Dysgu Personol (PLA). I weld a allech fod yn gymwys i gael PLA ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding - I gael rhestr lawn o gyrsiau PLA ewch i www.cavc.ac.uk/PLA

Cod y cwrs

PLAALSP03
L3

Cymhwyster

CompTIA Security PLUS

Lleoliadau

Ar-lein
Ar-lein