CompTIA Security+® (PLA)

L3 Lefel 3
Rhan Amser
Cysylltwch â ni am ddyddiadau
Ar-lein
PLA: Mae'r cwrs yn rhad ac am ddim i oedolion cyflogedig sy'n gymwys i gael Cyfrif Dysgu Personol (PLA). I weld a allech fod yn gymwys i gael PLA ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding - I gael rhestr lawn o gyrsiau PLA ewch i www.cavc.ac.uk/PLA

Ynghylch y cwrs hwn

Fel gweithiwr proffesiynol ardystiedig CompTIA Project+, byddwch yn datblygu’r sgiliau rheoli prosiect angenrheidiol i fod yn gyfrifol am gynnig, cynllunio, darparu, rheoli a gwerthuso prosiectau ar raddfa fach yn y sector TG gan ddefnyddio methodolegau chwim.  Mae'r wybodaeth a'r sgiliau y byddwch yn eu hennill yn drosglwyddadwy ar gyfer prosiectau yn y sefydliad ehangach.


Mae’r CompTIA CASP+ yn rhaglen e-ddysgu gynhwysfawr sy’n cynnwys gwersi a gweithgaredau ymarferol y gallwch ail-ymweld â hwy mor aml ag y bydd ei angen.

Mae’r rhaglen hon yn gofyn am oddeutu 37 awr, gydag argaeledd hyblyg yn unol â phatrymau gwaith personol. 


Bydd gan gynrychiolwyr 6 mis o’r dyddiad ymrestru i gwblhau'r rhaglen. Trefnir dyddiadau cwrs yn uniongyrchol gydag ALS Training unwaith y bydd cyllid wedi cael ei gymeradwyo.

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Yn ystod y cwrs CompTIA Security+ cynhwysfawr, byddwch yn ennill dealltwriaeth fanwl o gysyniadau ac allweddol Rheoli Prosiect TG. Dyma beth allwch chi ddisgwyl ei ddysgu:


Maes Llafur Project+

  • Gwers 1: Paratoi ar gyfer y Prosiect

  • Gwers 2: Dewis y Fframwaith Prosiect

  • Gwers 3: Cynnig a chychwyn y Prosiect

  • Gwers 4: Hwyluso Cyfarfodydd Effeithiol

  • Gwers 5: Gweithredu Dylunio Datrysiadau

  • Gwers 6: Rheoli Adnoddau

  • Gwers 7: Rheoli Risg

  • Gwers 8: Creu Amserlen Prosiect

  • Gwers 9: Creu Cynllun Prosiect

  • Gwers 10: Sicrhau Datrysiadau

  • Gwers 11: Rheoli Gweithrediad Prosiect

  • Gwers 12: Rheoli Problemau a Newidiadau

  • Gwers 13: Rheoli Perfformiad

  • Gwers 14: Cloi'r Prosiect


Labordai Ymarferol Ar-lein

  • Assisted Lab: Adnabod Rolau a Chyfrifoldebau Prosiect

  • Assisted Lab: Dewis Methodoleg Prosiect

  • APPLIED LAB: Paratoi Siarter Prosiect

  • Assisted Lab: Creu Cynllun Cyfathrebu

  • APPLIED LAB: Dehongli Gofynion Datrysiad

  • Assisted Lab: Neilltuo Adnoddau Prosiect

  • Assisted Lab: Dadansoddi Risg

  • APPLIED LAB: Creu Amserlen Prosiect

  • Assisted Lab: Adnabod y Llwybr Critigol

  • Assisted Lab: Cymharu Dulliau Sicrhau Adnoddau

  • APPLIED LAB: Creu Cynllun Sbrint

  • Assisted Lab: Adnabod Problemau

  • Assisted Lab: Mesur Perfformiad Prosiect

  • APPLIED LAB: Cymodi Cyllideb y Prosiect


Arholiad


Mae’r Arholiad CompTIA Project+ PK0-005 yn rhan annatod o broses ardystio CompTIA Project+. Dyma rai manylion allweddol ynglŷn â’r arholiad:


  • Cod Arholiad: Y cod swyddogol ar gyfer yr arholiad ardystio hwn yw PK0-005.


  • Fformat yr Arholiad: Mae’r arholiad yn cynnwys cyfuniad o gwestiynau amlddewis a chwestiynau yn seiliedig ar berfformiad.


  • Nifer y Cwestiynau: Bydd yr arholiad yn cynnwys hyd at 90 cwestiwn.


  • Hyd yr arholiad: Bydd yr ymgeiswyr yn derbyn 90 munud i gwblhau’r arholiad.


  • Marc Pasio: Y marc pasio ar gyfer yr arholiad K0-005 yw 710 (ar raddfa rhwng 100 a 900).


  • Diben yr Arholiad: Mae’r arholiad ardystio PK0-005 CompTIA Project+ yn cynnwys y methodolegau, y fframweithiau a’r sgiliau chwim angenrheidiol i reoli a darparu prosiectau TG yn llwyddiannus, gan ystyried pynciau newydd fel cydymffurfio a rheoli newid.


Nodwch fod arholiadau ardystio, polisïau a gweithdrefnau CompTIA yn gallu newid, felly gwiriwch wefan swyddogol CompTIA am y wybodaeth fwyaf diweddar cyn eich arholiad.

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

Cysylltwch â ni am ddyddiadau

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Rhan Amser

4.5 awr yr wythnos

Lleoliad

Ar-lein
Mapiau a Chyfarwyddiadau
PLA: Mae'r cwrs yn rhad ac am ddim i oedolion cyflogedig sy'n gymwys i gael Cyfrif Dysgu Personol (PLA). I weld a allech fod yn gymwys i gael PLA ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding - I gael rhestr lawn o gyrsiau PLA ewch i www.cavc.ac.uk/PLA

Cod y cwrs

PLAALSP02
L3

Cymhwyster

CompTIA Project PLUS

Lleoliadau

Ar-lein
Ar-lein