Mae CompTIA Network+ yn dilysu’r sgiliau craidd sy’n angenrheidiol er mwyn sefydlu, cynnal, datrys problemau a diogelu rhwydweithiau mewn unrhyw amgylchedd, gan eich paratoi ar gyfer gyrfa gwerth chweil mewn rhwydweithio a diogelwch seilbr.
Mae’r ardystiad CompTIA Network+ yn dilysu bod gan yr ymgeisydd llwyddiannus y wybodaeth a’r sgiliau sy’n angenrheidiol er mwyn:
Sefydlu cysylltedd rhwydwaith drwy ddosbarthu dyfeisiadau wedi’u gwifro a dyfeisiadau di-wifr.
Deall a chynnal dogfennaeth rhwydwaith.
Deall pwrpas gwasanaethau rhwydwaith.
Deall cysyniadau canolfan ddata, cwmwl a rhwydweithio rhithiol sylfaenol.
Monitro gweithgaredd rhwydwaith, adnabod problemau perfformiad ac argaeledd.
Rhoi technegau caledu rhwydwaith ar waith.
Rheoli, cyflunio a datrys problemau seilwaith rhwydwaith.
Ffi Cofrestru: £0.00
Gwybodaeth TG sylfaenol. Peth gwybodaeth am rwydweithio. Mae rhai profiad TG ymarferol yn fantais. Lefel dda o Saesneg.
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
CompTia Security + | CompTia Cloud +