Ardystiad CompTIA CySA+® (CDP)

L3 Lefel 3
Rhan Amser
Cysylltwch â ni i gael dyddiadau.
Ar-lein
PLA: Mae'r cwrs yn rhad ac am ddim i oedolion cyflogedig sy'n gymwys i gael Cyfrif Dysgu Personol (PLA). I weld a allech fod yn gymwys i gael PLA ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding - I gael rhestr lawn o gyrsiau PLA ewch i www.cavc.ac.uk/PLA

Ynghylch y cwrs hwn

Mae Dadansoddwr Seiberddiogelwch CompTIA (CySA+) yn ardystiad a gydnabyddir yn fyd eang, sy’n cadarnhau eich gallu i ddal, monitro ac ymateb i fygythiadau i ddiogelwch rhwydweithiau. Drwy ymgymryd â’r cwrs hwn, byddwch yn derbyn gwybodaeth hollbwysig am fygythiadau seiberddiogelwch, pensaernïaeth diogelwch, rheoli risgiau, ac ymateb i ddigwyddiadau.

Mae’r CompTIA CASP+ yn rhaglen e-ddysgu gynhwysfawr sy’n cynnwys gwersi a gweithgareddau ymarferol y gallwch ail-ymweld â hwy mor aml ag y bydd ei angen.

Mae’r rhaglen hon yn gofyn am oddeutu 37 awr, gydag argaeledd hyblyg yn unol â phatrymau gwaith personol.

Bydd gan gynrychiolwyr 6 mis o’r dyddiad ymrestru i gwblhau'r rhaglen. Trefnir dyddiadau cwrs yn uniongyrchol gydag ALS Training unwaith y bydd cyllid wedi cael ei gymeradwyo.

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Mae maes llafur y cwrs Dadansoddwr Seiberddiogelwch CompTIA CySA+ yn gynhwysfawr, ac yn cynnwys ystod eang o destunau a chysyniadau sy’n allweddol ar gyfer unrhyw swydd Dadansoddwr Seiberddiogelwch. Wrth ymrestru ar y cwrs hwn, gallwch ddisgwyl dysgu am y canlynol:

Maes Llafur E-Ddysgu CySA+

  • Gwers 1: Deall Ymateb, Rheoli ac Ymdrin â Gwendidau
  • Gwers 2: Archwilio Deallusrwydd Bygythiadau a Chysyniadau Canfod Bygythiadau
  • Gwers 3: Egluro Cysyniadau Pwysig Rhwydwaith a Systemau
  • Gwers 4: Deall Gwelliannau Proses mewn Gweithrediadau Diogelwch
  • Gwers 5: Gweithredu Dulliau Sganio Gwendidau
  • Gwers 6: Gweithredu Dadansoddiad Gwendidau
  • Gwers 7: Cyfathrebu Gwybodaeth ynghylch Gwendidau
  • Gwers 8: Egluro Gweithgareddau Ymateb i Ddigwyddiadau
  • Gwers 9: Arddangos Cyfathrebiadau Ymateb i Ddigwyddiadau
  • Gwers 10: Cymhwyso Adnoddau i Adnabod Gweithgareddau Maleisus
  • Gwers 11: Dadansoddi Gweithgareddau â’r Potensial i fod yn Faleisus
  • Gwers 12: Deall Asesiadau Gwendidau Cymwysiadau
  • Gwers 13: Archwilio Adnoddau Sgriptio a Chysyniadau Dadansoddi
  • Gwers 14: Deall Diogelwch Cymwysiadau ac Arferion Gorau o ran Lliniariadau Ymosodiad

Labordai Ymarferol Ar-lein

  • Assisted Lab: Archwilio Amgylchedd y Labordy
  • Assisted Lab: Rheolyddion Cyflunio
  • Assisted Lab: Adolygu Ffynonellau Deallusrwydd Bygythiadau ac IoC
  • Assisted Lab: Gweithredu Helfa Fygythiadau
  • Assisted Lab: Cyflunio Cofnodion Canolog
  • APPLIED LAB: Gweithredu Caledu System
  • Assisted Lab: Asesu Gwallau Cydamseru
  • Assisted Lab: Awtomatiaeth Cyflunio
  • Assisted Lab: Gweithredu Darganfod Asedau
  • Assisted Lab: Gweithredu Sganio Gwendidau
  • Assisted Lab: Gweithredu Sganio Goddefol
  • Assisted Lab: Sefydlu Ymwybyddiaeth Cyd-destun
  • Assisted Lab: Dadansoddi Adroddiadau Gwendidau
  • Assisted Lab: Systemau Canfod Gwaddol
  • APPLIED LAB: Gweithredu Dadansoddiad Fforensig Ôl-ddigwyddiad
  • APPLIED LAB: Gweithredu Canfod a Dadansoddi IoC
  • ADAPTIVE LAB: Gweithredu Ymateb i Ddigwyddiadau Llawlyfr
  • APPLIED LAB: Casglu Tystiolaeth Fforensig
  • Assisted Lab: Gweithredu Dadansoddiad o Brif Achos
  • APPLIED LAB: Defnyddio Synwyryddion Rhwydwaith
  • APPLIED LAB: Ymchwilio i Enw Da DNS ac IP
  • Assisted Lab: Defnyddio Technegau Dadansoddi Ffeiliau
  • Assisted Lab: Dadansoddi Gweithgareddau â’r Potensial i fod yn Faleisus
  • Assisted Lab: Defnyddio Adnoddau Sganio Gwendidau Anhraddodiadol
  • APPLIED LAB: Gweithredu Sganio Gwendidau We
  • Assisted Lab: Manteisio ar Gryptograffeg Wan
  • Assisted Lab: Gweithredu a Chanfod Croesiad Cyfarwyddiadur a Chwistrelliad Gorchmynion
  • Assisted Lab: Gweithredu a Chanfod Uwch-gyfeiriadau Braint
  • Assisted Lab: Gweithredu a Chanfod XSS
  • Assisted Lab: Gweithredu a Chanfod LFI/RFI
  • Assisted Lab: Gweithredu a Chanfod SQLi
  • Assisted Lab: Gweithredu a Chanfod CSRF
  • APPLIED LAB: Canfod a Manteisio ar Gam-gyfluniad Diogelwch

Arholiadau

Manylion Arholiad CompTIA CySA+ CS0-003

  • Cod Arholiad: CS0-003
  • Ardystiad: Dadansoddwr Seiberddiogelwch CompTIA (CySA+)
  • Hyd yr arholiad: 165 munud
  • Nifer y Cwestiynau: Uchafswm o 85 cwestiwn
  • Math o Gwestiynau: Amlddewis ac yn seiliedig ar berfformiad
  • Marc Pasio: 750 (ar raddfa o 100-900)
  • Iaith: Saesneg
  • Diben yr Arholiad: Mae’r arholiad CySA+ yn ardystio fod gan yr ymgeisydd llwyddiannus y wybodaeth a’r sgiliau angenrheidiol er mwyn rhoi technegau adnabod bygythiadau ar waith, cyflawni dadansoddiadau data, gwerthuso’r canlyniadau er mwyn adnabod gwendidau, bygythiadau a risgiau i sefydliad, gyda’r amcan o ddiogelu ac amddiffyn rhaglenni a systemau o fewn y sefydliad.

Nodwch fod arholiadau ardystio, polisïau a gweithdrefnau CompTIA yn gallu newid, felly gwiriwch wefan swyddogol CompTIA am y wybodaeth fwyaf diweddar cyn eich arholiad.

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

Cysylltwch â ni i gael dyddiadau.

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Rhan Amser

37 awr yr wythnos

Lleoliad

Ar-lein
Mapiau a Chyfarwyddiadau
PLA: Mae'r cwrs yn rhad ac am ddim i oedolion cyflogedig sy'n gymwys i gael Cyfrif Dysgu Personol (PLA). I weld a allech fod yn gymwys i gael PLA ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding - I gael rhestr lawn o gyrsiau PLA ewch i www.cavc.ac.uk/PLA

Cod y cwrs

CSCOMPCYSA
L3

Cymhwyster

CompTIA CySA+® Certification (PLA)