Mae’r cwrs hwn ar gyfer Gweithwyr Proffesiynol TG, sydd eisiau dysgu am Dechnolegau CompTIA.
Yn ystod y cwrs hwn, bydd cynrychiolwyr yn dod i wybod sut i adnabod offer a thechnegau a ddefnyddir i gynnal rhagchwiliad amgylcheddol o rwydwaith targed neu system ddiogelwch. Byddant hefyd yn dysgu am y defnydd o fframweithiau, polisïau, a gweithdrefnau, ac yn adrodd ar saernïaeth diogelwch. Yn ystod y cwrs 4 diwrnod hwn, bydd cynrychiolwyr yn cael gwybodaeth am sut i ddefnyddio offer asesu gwendidau cymwysiadau a rhaglenni gwe.
Bydd y cwrs hwn yn helpu cynrychiolwyr sy’n paratoi ar gyfer arholiad ardystio CompTIA CySA+ gyda hyfforddiant ymarferol, seiliedig ar senarios fel eu bod yn barod i ymdrin â Bygythiadau Parhaus Uwch-Dechnolegol (APTs) yn uniongyrchol.
*Asesir y cymhwyster hwn drwy arholiad*.
Gan mai cwrs ar-lein yw hwn, bydd angen mynediad i gyfrifiadur/gliniadur gyda rhyngrwyd.
Nid oes unrhyw ragofynion ar gyfer y cwrs hwn.
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.