Cloud+ CompTIA

L3 Lefel 3
Rhan Amser
8 Ionawr 2026 — 18 Mehefin 2026
Ar-lein
PLA: Mae'r cwrs yn rhad ac am ddim i oedolion cyflogedig sy'n gymwys i gael Cyfrif Dysgu Personol (PLA). I weld a allech fod yn gymwys i gael PLA ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding - I gael rhestr lawn o gyrsiau PLA ewch i www.cavc.ac.uk/PLA

Ynghylch y cwrs hwn

Mae CompTIA Cloud+ yn dilysu’r sgiliau hanfodol er mwyn gallu rhoi gwasanaethau seilwaith sy’n seiliedig ar y cwmwl ar waith, eu cynnal, eu hoptimeiddio a datrys problemau sy’n gysylltiedig â hwy.

Mae CompTIA Cloud+ yn mapio ar gyfer gofynion bywyd real swyddi gweithrediadau cwmwl, gan ddilysu’r sgiliau allweddol sy’n angenrheidiol i ragori mewn amgylchiadau cwmwl.

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Mae’r CompTIA Cloud+ (CV0-004) yn dilysu bod gan yr ymgeisydd llwyddiannus y wybodaeth a’r sgiliau angenrheidiol er mwyn:


  • Deall pensaernïaeth a chysyniadau dylunio’r cwmwl.

  • Gweithredu a chynnal amgylchedd cwmwl diogel.

  • Darparu a chyflunio adnoddau cwmwl yn llwyddiannus.

  • Arddangos y gallu i reoli gweithrediadau drwy gydol cylch bywyd yr amgylchedd cwmwl gan ddefnyddio sgiliau gwyliadwriaeth, graddio ac awtomeiddio.

  • Deall hanfodion cysyniadau DevOps yn ymwneud â gosod ac integreiddio.

  • Datrys problemau cyffredin yn ymwneud â rheoli cwmwl.

Ffïoedd cwrs

Ffi Cofrestru: £0.00

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

8 Ionawr 2026

Dyddiad gorffen

18 Mehefin 2026

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Rhan Amser

3 awr yr wythnos

Lleoliad

Ar-lein
Mapiau a Chyfarwyddiadau
PLA: Mae'r cwrs yn rhad ac am ddim i oedolion cyflogedig sy'n gymwys i gael Cyfrif Dysgu Personol (PLA). I weld a allech fod yn gymwys i gael PLA ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding - I gael rhestr lawn o gyrsiau PLA ewch i www.cavc.ac.uk/PLA

Cod y cwrs

ITCC3P41
L3

Cymhwyster

CompTia Cloud +

Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach

28%

Mae gan Brifddinas-Ranbarth Caerdydd glwstwr digidol llewyrchus gyda rhagamcanion o 6,000 o swyddi ychwanegol erbyn 2025, sy’n gyfanswm twf o 28% (EMSI 2019).

Gradd mewn diogelwch seibr neu faes cyffelyb