Weldio Cerbydau Modur (Gyda'r nos)

L2 Lefel 2
Rhan Amser
13 Mai 2024 — 1 Gorffennaf 2024
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
£: Mae'r cwrs hwn yn rhad ac am ddim i oedolion di-waith neu oedolion sy'n derbyn budd-daliadau penodol. Os ydych chi'n gymwys, nid ydych yn talu'r 'Ffi cwrs' a restrir o dan 'Ffi cwrs flynyddol'. Gellir codi ffi gofrestru o £10-30. Bydd angen talu unrhyw ffi gofrestru broffesiynol / ffi arholiad / ffi arall a restrir. Gall cefnogaeth ariannol fod ar gael ar gyfer y costau hyn. I ddysgu mwy ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding

Ynghylch y cwrs hwn

Mae'r cwrs hwn wedi'i anelu at ymgeiswyr sydd ynghlwm â'r diwydiant cerbydau modur sy'n dymuno gwella eu sgiliau a'u gwybodaeth weldio ar MIG/MAG. Bydd yn mynd i'r afael â nifer o dasgau, a fydd yn cynnwys amrywiaeth o uniadau wedi'u weldio. Gwneir y rhain mewn nifer o ystumiau gwahanol. Wedi iddynt gwblhau'r cwrs, bydd yr ymgeiswyr yn gallu gwneud ymarferion weldio sylfaenol i safon lefel 2.

Mae'n hanfodol bod pob dysgwr cofrestredig yn mynychu pob un o'r 7 sesiwn gan fod y cwrs yn un manwl iawn ac yn symud yn gyflym.

Mae'r cwrs AM DDIM hwn ar gael i oedolion sy'n gymwys am Gyfrif Dysgu Personol (PLA) yn unig.
Mae Cyfrifon Dysgu Personol, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, ar gael i oedolion cyflogedig sy'n byw yng Nghymru sy'n dymuno gwella sgiliau er mwyn datblygu neu newid gyrfa. 
Canfyddwch a ydych yn gymwys heddiw.

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Corff dyfarnu'r cymhwyster uned fydd Sefydliad y Diwydiant Moduro. Bydd yn mynd i'r afael ag agweddau sylfaenol weldio MIG/MAG, i gynnwys gosod a defnyddio offer weldio a gwneud amrywiaeth o uniadau weldio. Bydd sesiynau ymarferol ac yn y dosbarth, yn ymdrin â gwybodaeth greiddiol, ac yna asesiad ar-lein ar ddiwedd y cwrs. Bydd hyn yn cynnwys cwestiynau amlddewis.

Ffi'r cwrs fesul blwyddyn

Ffi Cwrs: £0.00

Gofynion mynediad

Bydd ymgeiswyr yn cael eu hystyried ar sail cyfweliad ynghyd â dymuniad ac ymrwymiad boddhaol i gwblhau’r cwrs y maent eisiau ei astudio.

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

13 Mai 2024

Dyddiad gorffen

1 Gorffennaf 2024

Amser o'r dydd

yn y nôs

Rhan Amser

3 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau
£: Mae'r cwrs hwn yn rhad ac am ddim i oedolion di-waith neu oedolion sy'n derbyn budd-daliadau penodol. Os ydych chi'n gymwys, nid ydych yn talu'r 'Ffi cwrs' a restrir o dan 'Ffi cwrs flynyddol'. Gellir codi ffi gofrestru o £10-30. Bydd angen talu unrhyw ffi gofrestru broffesiynol / ffi arholiad / ffi arall a restrir. Gall cefnogaeth ariannol fod ar gael ar gyfer y costau hyn. I ddysgu mwy ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding

Cod y cwrs

MVCC1P01
L2

Cymhwyster

T 601 5432 BP19K Knowledge of Vehicle Bo

Mwy...

Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach

18,000

Mae gan Gymru tua 8% o ddiwydiant gweithgynhyrchu modurol y DU ac mae ganddi weithlu medrus o 18,000 o bobl a throsiant blynyddol o £3 biliwn.

Mae'r cwrs hwn wedi'i ddylunio i roi'r sgiliau weldio sylfaenol sydd eu hangen ar ddysgwyr ar gyfer cyflogaeth yn y Diwydiant Cerbydau Modur.

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Y Ganolfan Foduro, 
Campws Canol y Ddinas, 
Heol Dumballs, 
Caerdydd, 
CF10 5FE