Busnes

L3 Lefel 3
Llawn Amser
2 Medi 2024 — 20 Mehefin 2025
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Ynglŷn â'r cwrs

Yn awyddus i ddatblygu eich sgiliau a'ch dealltwriaeth o Fusnes? Yna mae ein cwrs Diploma Sylfaen Lefel 3 BTEC mewn Busnes a Diploma Estynedig Lefel 3 BTEC mewn Busnes (EDEXCEL) yn ddewis perffaith i chi! Wedi eu lleoli yn ein campws Canol Dinas yng Nghaerdydd, bydd myfyrwyr yn ennill cymhwyster cysylltiedig â gwaith, ymarferol, sy'n gyfwerth â thri Lefel A. Wrth astudio mewn ystafelloedd dosbarth a chyfleusterau pwrpasol y coleg, bydd disgyblion yn dysgu drwy gwblhau prosiectau ac aseiniadau sy'n seiliedig ar sefyllfaoedd, gweithgareddau a gorchmynion gwaith gwirioneddol.

Beth fyddwch yn ei astudio?

Caiff Diploma Sylfaen Lefel 3 EDEXCEL ei astudio yn y flwyddyn gyntaf ac mae wedi'i wneud o 6 uned:

  1. Archwilio Busnes
  2. Datblygu Cynllun Marchnata
  3. Cyllid Personol a Busnes
  4. Rheoli Digwyddiad

A 2 Uned Opsiynol.

Bydd cyflawniad llwyddiannus Blwyddyn 1 yn arwain at drosglwyddiad i'r Diploma Estynedig Lefel 3 EDEXCEL yn yr ail flwyddyn ac astudiaeth o 7 uned arall.

Yn ogystal, bydd myfyrwyr yn ymgymryd â Sgiliau Hanfodol Cymru Lefel 2 mewn Llythrennedd a Rhifedd.

Yn barod am yrfa

Pan fyddwch wedi dewis eich cwrs, rydym yn argymell yn gryf eich bod yn cofrestru ar y rhaglen Career Ready. Mae'r rhaglen hon yn rhedeg ochr yn ochr â'ch cwrs i sicrhau taith drawsffurfiol, a bydd yn eich helpu chi i fynd i'r byd gwaith neu'r brifysgol gyda hyder, sgiliau a rhwydweithiau proffesiynol, sydd eu hangen i gyflawni eich potensial.

Byddwn yn eich darparu chi â mentor, ymweliadau â'r gweithle, dosbarthiadau meistr a phrofiadau ar sail gwaith, all gynnwys interniaeth. Bydd y cwbl yn adeiladu ar eich astudiaethau, i'ch helpu chi ddatblygu'r sgiliau a'r hyder sydd eu hangen i lwyddo yn eich gyrfaoedd yn y dyfodol.

Gofynion mynediad

Addysgu ac Asesu

  • Aseiniadau rheolaidd ac arholiadau ysgrifenedig

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

2 Medi 2024

Dyddiad gorffen

20 Mehefin 2025

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Llawn Amser

18 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau

Cod y cwrs

BSCC3F07
L3

Cymhwyster

Pearson BTEC Diploma Sylfaen Cenedlaethol Lefel 3 mewn Busnes

Mwy

Fideos
Beth mae ein myfyrwyr yn ddweud?

“Buaswn i’n bendant yn argymell astudio yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro. Mae’r coleg wedi fy nghefnogi drwy gydol fy nghwrs ac, yn ogystal â fy helpu gyda cheisiadau, mae wedi fy helpu gyda phrofiad gwaith oedd ei angen i ddatblygu fy CV.”

Evelina Skineviciute
Astudio Busnes

Rhagolygon Gyrfa ac Astudiaeth Bellach

7%

Erbyn 2025, rhagwelir y bydd y diwydiant hwn yn tyfu 7% ar draws Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, gan arwain at 2,500 o swyddi ychwanegol. (Lightcast 2021).

Mae'r cymhwyster hwn yn baratoad da ar gyfer cyflogaeth a dilyniant i gyrsiau addysg uwch mewn maes sy'n gysylltiedig â busnes.

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Campws Canol y Ddinas,

Heol Dumballs,

Caerdydd,

CF10 5FE