MAC ar Drac: Creu Ffilmiau

L2 Lefel 2
Llawn Amser
7 Hydref 2024 — 18 Gorffennaf 2025
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Ynghylch y cwrs hwn

Darperir y cwrs Diploma Lefel 2 mewn Creu Ffilmiau gan Academi Cyfryngau Cymru (MAC), yng Nghaerdydd. Mae hwn yn gwrs llawn amser sy’n cyflwyno myfyrwyr i feysydd allweddol mewn adrodd stori drwy gyfrwng ffilm. Mae'n canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau ymarferol myfyrwyr. Byddwch yn dysgu creu ffilmiau o'u dechrau i'w diwedd - o sgript i'r sgrin.

Byddwch yn dechrau drwy ddysgu sut i gyflwyno syniadau am ffilm a gorffen y cwrs drwy ddangos eich ffilm ar sgrin mewn sinema i bobl broffesiynol yn y diwydiant.

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Mae'r cwrs yn canolbwyntio ar ddatblygu profiad ymarferol mewn meysydd megis:

• Sinematograffi a hanes ffilm

• Paratoi trin ffilm

• Ysgrifennu sgript a bwrdd stori

• Cyflwyno syniad a datblygu

• Dylunio set a gwisgoedd

• Sut i ddefnyddio offer proffesiynol a meddalwedd

• Gweithio gydag actorion

• Saethu ffilm fer fel criw llawn

• Recordio sain, sgôr ac effeithiau sain

• Ôl-gynhyrchu: golygu, cymysgu sain a graddfa lliw.

• Cyflwyno dangosiad cyntaf o ffilm fer

Mae'r cwrs hwn yn cyflwyno'r meysydd allweddol o greu ffilmiau: ffilmiau dogfen a ffuglen. Byddwch yn gwylio a beirniadu ystod i ffilmiau cyfoes; yn dysgu sut i greu a chyflwyno syniadau am eich ffilm eich hun; gweithio gydag archif llonydd a symudol a dysgu sut i hyrwyddo eich gwaith mewn fformatau gwahanol Byddwch yn creu eich ffilmiau 10 munud llwyddiannus eich hun yn defnyddio offer ffilmio, recordio sain a golygu.

Bydd y gwaith y byddwch yn ei gynhyrchu ar gyfer pob modiwl yn eich helpu i weithio tuag at yr Asesiad Prosiect Cynhyrchu Digidol. Byddwch yn datblygu portffolio a fydd yn allweddol ar gyfer eich dilyniant i mewn i addysg neu gyflogaeth yn y dyfodol. Mae MAC yn ymfalchïo mewn darparu dosbarthiadau mewn amgylchedd hamddenol a chynhwysfawr, a chanolbwyntio ar eich cryfderau a'ch helpu chi i fagu eich hyder. Byddwch yn dysgu mewn grŵp bach sy'n cynnwys rhwng 12 a 16 o fyfyrwyr. Mae presenoldeb o 90% ac uwch yn allweddol wrth i chi gwblhau'r cwrs yn llwyddiannus.

Gofynion mynediad

Ni fydd angen profiad blaenorol ac ni cheir unrhyw ofynion mynediad ffurfiol. Fodd bynnag, byddai’n ddefnyddiol pe baech eisoes wedi ennill BTEC Lefel 1 yn y Cyfryngau / Ffilm / TG neu pe bai gennych brofiad cyfwerth. Byddwch yn cael eich gwahodd i gyfarfod â’ch tiwtoriaid; felly, gyda’ch gilydd, bydd modd ichi asesu pa mor addas ydych ar gyfer y cwrs. Ar ôl ichi gael eich derbyn ar y cwrs, cewch eich gwahodd i sesiwn ragflas ac i lenwi proffil myfyriwr. Yn arbennig, byddem yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr na fu modd iddynt gael gafael ar gyfleoedd tebyg mewn mannau eraill, myfyrwyr sydd mewn perygl o ddioddef allgáu cymdeithasol, a myfyrwyr nad ydynt mewn addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth. Mae’r cwrs hwn ar gael i bawb rhwng 16-25 oed.

Dulliau addysgu ac asesu

Mae'r rhaglen hon yn cynnwys 4 modiwl.

Cyfleusterau

Bydd yr holl offer yn cael ei ddarparu gan MAC.

Caiff myfyrwyr fynediad anghyfyngedig i’r stiwdio sain a’r ystafell werdd.

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

7 Hydref 2024

Dyddiad gorffen

18 Gorffennaf 2025

Llawn Amser

19.5 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau

Cod y cwrs

PRCCMCJ8
L2

Cymhwyster

Pearson BTEC Level 2 Diploma in Creative Media Skills

Mwy...

Beth mae ein myfyrwyr yn ei ddweud

'Mae tiwtoriaid yn trin myfyrwyr â pharch, mae'r myfyrwyr eraill yn gyfeillgar, mae'r gwaith yn cael ei egluro'n glir, mae'r testunau'n ddiddorol ac rwyf wedi dysgu cymaint o sgiliau newydd.'

'Rwy’n teimlo'n ddiogel yn MAC ac mae pobl yn fy neall.'

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Campws Canol y Ddinas,
Heol Dumballs,
Caerdydd,
CF10 5FE