Tystysgrif Lefel 5 mewn Hyfforddi a Mentora Effeithiol

L5 Lefel 5
Rhan Amser
7 Ionawr 2025 — 5 Awst 2025
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
£: Mae'r cwrs hwn yn rhad ac am ddim i oedolion di-waith neu oedolion sy'n derbyn budd-daliadau penodol. Os ydych chi'n gymwys, nid ydych yn talu'r 'Ffi cwrs' a restrir o dan 'Ffi cwrs flynyddol'. Gellir codi ffi gofrestru o £10-40. Bydd angen talu unrhyw ffi gofrestru broffesiynol / ffi arholiad / ffi arall a restrir. Gall cefnogaeth ariannol fod ar gael ar gyfer y costau hyn. I ddysgu mwy ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding

Ynghylch y cwrs hwn

Mae Tystysgrif Lefel 5 ILM yn gymhwyster sy'n cael ei gydnabod yn genedlaethol ac wedi'i ddylunio ar gyfer rheolwyr a'r rhai sydd â chyfrifoldeb am hyfforddi a mentora effeithiol fel rhan o'u rôl ddyddiol o fewn cyd-destun sefydliadol. Maent hefyd yn addas ar gyfer unigolion sy'n dymuno symud i rôl ddatblygu neu ddechrau gyrfa fel hyfforddwr neu fentor.

Mae'r rhaglen ryngweithiol hon yn darparu dysgwyr â'r wybodaeth ddamcaniaethol ynghylch hyfforddi a mentora, ynghyd â defnyddio sgiliau hyfforddi a mentora ymarferol o fewn cyd-destun sefydliadol. Mae'n galluogi dysgwyr i archwilio sut y gall datblygu diwylliant hyfforddi wella cynhyrchiant sefydliadol ac ymddygiadau cadarnhaol yn y gweithle. Mae'r dysgwyr yn cael cyfle i ymarfer eu technegau hyfforddi a chymhwyso modelau o fewn amgylchedd cynhaliol, gyda goruchwyliaeth sy'n galluogi ymarfer myfyriol a datblygiad personol.

Diddordeb? Cliciwch ar yr isdeitlau isod am ragor o wybodaeth!

Beth fyddwch chi’n ei astudio

I ennill eich cymhwyster Lefel 5 ILM, bydd gofyn i chi fynychu 5x dosbarth wyneb yn wyneb gorfodol. Bydd disgwyl i chi gynnal hunan astudio er mwyn ysgrifennu 3x Aseiniad Uned o fewn terfynau amser penodol. Mae'r aseiniadau hyn yn cynnwys aseiniad academaidd, portffolio 18 awr o Hyfforddi o fewn sefydliad, a dyddlyfr myfyriol

Diwrnod 1:  7 Ionawr 2025
Diwrnod 2: 14 Ionawr 2025
Diwrnod 3: 4 Chwefror 2025
Diwrnod 4: 4 Mawrth 2025
Diwrnod 5: 1 Ebrill 2025
Diwrnod 6: 1 Mai 2025
Diwrnod 7: 3 Mehefin 2025
Diwrnod 8: 1 Gorffennaf 2025
Diwrnod 9: 5 Awst 2025 

Bydd tiwtorial yn cael ei drefnu'n uniongyrchol rhyngoch chi a'ch Tiwtor ILM unwaith mae'r cwrs wedi dechrau

Unedau yr ymdrinnir â nhw ar y cwrs hwn:

- Uned 500: Deall y Sgiliau, Egwyddorion ac Arfer Hyfforddi a Mentora Effeithiol o fewn Cyd-destun Sefydliadol. 
- Uned 501: Cynnal Hyfforddiant a Mentora Effeithiol o fewn Cyd-destun Sefydliadol (18 awr o ymarfer hyfforddi o fewn sefydliad)
- Uned 503: Adolygu eich Gallu eich hun fel Hyfforddwr neu Fentor o fewn Cyd-destun Sefydliadol

Unwaith rydych wedi llwyddo, byddwch yn derbyn tystysgrif a gydnabyddir yn genedlaethol a bathodyn achrediad digidol.

Ffi'r cwrs fesul blwyddyn

Ffi Cofrestru rhan amser: £40.00

Ffi Cwrs: £1,385.00

Gofynion mynediad

Rhaid talu Ffi y Cwrs a Chofrestru wrth gofrestru.
I fod yn gymwys ar gyfer y cymhwyster hwn, rhaid i chi:

  • fod mewn swydd fel Goruchwyliwr, Arweinydd Tîm neu Reolwr Llinell Gyntaf (oherwydd natur adfyfyriol aseiniadau'r cymhwyster).
  • lanlwytho Datganiad Personol sy'n 100 gair o leiaf wrth wneud cais i amlinellu eich diddordeb mewn ennill y cymhwyster hwn.
  • lanlwytho tystiolaeth o'ch cymhwyster uchaf hyd yma ee TGAU neu Dystysgrif Gradd.

Bydd pob cais, datganiad personol a thystiolaeth cymwysterau yn cael eu hasesu gan ein Tiwtoriaid Cwrs. Bydd y tîm wedyn yn cysylltu â chi i gadarnhau eich addasrwydd cyffredinol ar gyfer y lefel hon o gymhwyster ILM.

Sylwch na allwn brosesu ceisiadau heb Ddatganiad Personol.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

7 Ionawr 2025

Dyddiad gorffen

5 Awst 2025

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Rhan Amser

7 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau
£: Mae'r cwrs hwn yn rhad ac am ddim i oedolion di-waith neu oedolion sy'n derbyn budd-daliadau penodol. Os ydych chi'n gymwys, nid ydych yn talu'r 'Ffi cwrs' a restrir o dan 'Ffi cwrs flynyddol'. Gellir codi ffi gofrestru o £10-40. Bydd angen talu unrhyw ffi gofrestru broffesiynol / ffi arholiad / ffi arall a restrir. Gall cefnogaeth ariannol fod ar gael ar gyfer y costau hyn. I ddysgu mwy ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding

Cod y cwrs

CSILM5ECM
L5

Cymhwyster

City & Guilds Lefel 5 Tystysgrif mewn Hyfforddi a Mentora Effeithiol

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Campws Canol y Ddinas,

Heol Dumballs,

Caerdydd,

CF10 5FE