Diben y cwrs hwn yw datblygu eich dealltwriaeth a'ch gallu i arwain arloesedd a newid fel sy'n ofynnol gan reolwr canol gweithredol neu ddarpar reolwr canol. Byddwch yn archwilio'r angen am arloesedd a rheoli newid o fewn sefydliad, yn gallu cynnig atebion arloesol i wella perfformiad sefydliadol a gallu arwain a rheoli newid o fewn sefydliad.
Diben yr ail uned yw datblygu eich dealltwriaeth a'ch gallu i reoli prosiectau. Erbyn diwedd yr uned hon bydd gennych yr wybodaeth i reoli prosiect mewn sefydliad a gallu gwerthuso eich gallu eich hun i reoli prosiect.
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.