Arwain gyda Phwrpas. Dylanwadu gydag Effaith
Y Dyfarniad Lefel 5 ILM mewn Arwain a Rheoli yw eich cam nesaf tuag at fod y math o arweinydd y mae eraill eisiau ei ddilyn.
P’un a ydych yn rheolwr profiadol neu’n mentro i swydd fwy strategol, mae’r cymhwyster hwn a gydnabyddir yn genedlaethol wedi ei deilwra i arweinwyr presennol ac ar ddyfod sydd eisiau roi hwb i’w ffordd o feddwl yn strategol, rhoi sglein ar eu steiliau arwain ac arwain timau sy’n perfformio’n dda mewn ffordd hyderus. Gan gymhwyso technegau a sgiliau arwain yn y byd go iawn, byddwch yn datblygu rhagor o hyder wrth gymell, dirprwyo a rheoli perfformiad pobl eraill.
I ennill eich Dyfarniad Lefel 5 ILM yn llwyddiannus, bydd angen i chi fynd i 4 gweithdy gorfodol a 2 sesiwn diwtorial gyda’ch tiwtor.
Carfan nesaf
Cynhelir ein carfan nesaf ar safle ein Campws Canol Dinas Caerdydd o 9.30am – 4pm ar bob dyddiad.
Gweithdy 1: Dydd Mercher 20fed Mai 2026
Gweithdy 2: Dydd Iau 21ain Mai 2026
Gweithdy 3: Dydd Mawrth 21ain Gorffennaf 2026
Gweithdy 4: Dydd Mercher 22ain Gorffennaf 2026
Gweithdy 5: Dydd Mawrth 11eg Awst 2026
Modiwlau
Byddwch yn ennill dealltwriaeth eang o steiliau a damcaniaethau arwain, sgiliau cyfathrebu a deallusrwydd emosiynol cryfach, cipolwg ar gysylltu strategaeth â chyflawniad tîm y byd go iawn a’r adnoddau i ddatblygu ac arwain timau sy’n perfformio’n dda ac yn bodloni nodau’r sefydliad. Modiwlau dan sylw:
• Uned 522: Dod yn Rheolwr Effeithiol
• Uned 507: Deall Amgylchedd y Sefydliad
Asesiad
Mae gan y cymhwyster hwn ddau fodiwl arwain, ac asesiadau ysgrifenedig cynhwysfawr i’r ddau. Mae amser i hunan-astudio yn allweddol i’ch helpu i gwblhau eich aseiniadau a pharatoi at eich asesiad - felly sicrhewch eich bod yn trefnu eich amserlen yn unol â hynny.
Byddwch yn cael cymorth llawn drwy gydol y cwrs, gydag arweiniad gan eich tiwtor ILM dynodedig dros e-bost, Microsoft TEAMS, ffôn ac yn ystod diwrnodau eich tiwtorial.
Ar ôl ichi basio’r ddau fodiwl yn llwyddiannus, cewch eich Tystysgrif Dyfarniad Lefel 5 ILM mewn Rheoli Arweinyddiaeth, ynghyd â bathodyn digidol i rannu a dathlu eich cyflawniad ar-lein.
Ffi Cwrs: £965.00
Rhaid talu Ffi y Cwrs a Chofrestru wrth gofrestru.
I fod yn gymwys ar gyfer y cymhwyster hwn, rhaid i chi:
Bydd pob cais, datganiad personol a thystiolaeth cymwysterau yn cael eu hasesu gan ein Tiwtoriaid Cwrs. Bydd y tîm wedyn yn cysylltu â chi i gadarnhau eich addasrwydd cyffredinol ar gyfer y lefel hon o gymhwyster ILM.
Sylwch na allwn brosesu ceisiadau heb Ddatganiad Personol.
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.