Mae'r cwrs Cyflwyniad i Siarad Sbaeneg yn addas i unrhyw un sy'n dymuno dysgu siarad Sbaeneg a bydd yn addysgu elfennau sylfaenol yr iaith Sbaeneg i chi.
Ar y cwrs hwn byddwch yn dysgu sut i ddefnyddio iaith syml mewn perthynas â phynciau neu waith bob dydd.
Byddwch yn dysgu sut i -
·
Adeiladu brawddegau syml gan ddefnyddio prif ferfau.
·
Rhoi a gofyn am wybodaeth syml ynghylch pynciau neu waith bob dydd.
·
Cyfleu cyfarwyddiadau syml mewn perthynas â phynciau neu waith bob dydd.
Defnyddio brawddegau priodol ar gyfer beth y gall pobl neu dymuna pobl ei wneud.
Ffi Cofrestru rhan amser: £15.00
Cais, cyfweliad anffurfiol. Nid oes angen cymwysterau ffurfiol.
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.